Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mesur Adnewyddu Cyfansoddiadol

Diben y Mesur hwn yw ailddosbarthu pŵer o'r wladwriaeth ganoledig drwy wella rhyddid sifil, cryfhau'r Senedd a gwneud y weithrediaeth yn fwy atebol i'r bobl y mae'n eu gwasanaethu.

Prif elfennau'r Mesur

Mae prif elfennau'r Mesur yn cynnwys:

  • rhoi'r Gwasanaeth Sifil ar sail statudol, gan wreiddio yn y gyfraith ei werthoedd craidd o ddidueddrwydd, didwylledd, gonestrwydd a gwrthrychedd, darparu ar gyfer penodi cynghorwyr arbenigol a sefydlu Comisiwn Annibynnol ar gyfer y Gwasanaeth Sifil
  • rhoi'r gair olaf i Aelodau Seneddol ar yr holl gytundebau drwy ei gwneud yn ofynnol statudol iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd am 21 diwrnod cyn iddynt gael eu cadarnhau a phennu effeithiau cyfreithiol pleidlais negyddol gan Dŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi
  • diwygio rôl yr Atwrnai Cyffredinol, na fydd yn gallu rhoi cyfarwyddyd i erlynwyr mewn achosion unigol mwyach, ac eithrio mewn rhai amgylchiadau arbennig pan fydd yn rhaid i'r Atwrnai Cyffredinol adrodd yn ôl i'r Senedd. Bydd yn rhaid i'r Atwrnai Cyffredinol roi gwybod i'r Senedd bob blwyddyn am ei swyddogaethau mewn unrhyw ddigwyddiad
  • lleihau rôl yr Arglwydd Ganghellor mewn penodiadau barnwrol o dan lefel yr Uchel Lys a diswyddo'r Prif Weinidog o'r broses o benodi barnwyr y Goruchel Lys, a diddymu'r rheidrwydd ar yr Arglwydd Brif Ustus i gynnal ymgynghoriad neu gael caniatâd gan yr Arglwydd Ganghellor wrth arfer swyddogaethau penodol a darparu mesurau digolledu er mwyn galluogi'r Arglwydd Ganghellor i gyflawni ei ddyletswyddau er mwyn cynnal effeithiolrwydd y system gyfiawnder yn ei chyfanrwydd
  • dileu'r cyfyngiadau ar brotestiadau o amgylch y Senedd drwy ddiddymu'r gofynion i roi gwybod am brotestiadau yn yr ardal benodedig a dileu'r drosedd o gynnal protest o'r fath heb awdurdodiad Comisiynydd yr Heddlu Metropolitan

Additional links

Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion ar gyfer cyfreithiau newydd wedi dod i ben - nawr, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU