Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mesur Crwneriaid ac Ardystiad Marwolaethau

Diben y Mesur hwn yw cyflwyno system well i deuluoedd o ymchwilio i farwolaethau, fel y gallant gael eu sicrhau bod rheswm dros farwolaeth eu perthynas wedi'i sefydlu'n iawn a pha wersi, lle bo'n bosibl, y gellir eu dysgu er mwyn atal marwolaethau yn y dyfodol.

Prif elfennau'r Mesur

Prif elfennau'r Mesur yw:

  • creu gwasanaeth crwner cenedlaethol newydd, symud at grwneriaid cyfwerth ag amser llawn i weithio at y safonau gofynnol cenedlaethol (yr awdurdodau lleol fydd yn parhau i fod yn gyfrifol am gyllido)
  • creu system newydd o ail ardystiad o farwolaethau na chânt eu cyfeirio at y crwner, yn cynnwys claddu ac amlosgi
  • sefydlu grŵp newydd o arholwyr meddygol i graffu yn annibynnol ar achosion marwolaethau a roddir gan feddygon ar dystysgrifau marwolaeth
  • cyflwyno pwerau newydd i grwneriaid ymchwilio, gan gynnwys gweithdrefnau gwell ar gyfer post mortem a chwest
  • sefydlu Prif Grwner newydd fel pennaeth y gwasanaeth crwner, gwella trefniadau ar gyfer penodiadau a hyfforddiant i grwneriaid, a darparu ar gyfer arolygiad annibynnol ar grwneriaid
  • creu ffiniau hyblyg newydd rhwng ardaloedd y crwner er mwyn galluogi cyflwyno gwasanaethau i deuluoedd yn fwy effeithiol, a rhoi pwerau i'r Prif Grwner symud gwaith er mwyn osgoi datblygu ôl-groniadau o waith
  • sefydlu hawliau i apelio newydd a hygyrch ar gyfer pobl mewn profedigaeth yn erbyn penderfyniadau crwneriaid
  • cyflwyno Siarter i Bobl mewn Profedigaeth yn amlinellu'r amrywiaeth eang o hawliau i bobl mewn profedigaeth er mwyn rhoi gwybod iddynt am gynnydd achosion crwneriaid, ac i ymgynghori â hwy

Additional links

Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion ar gyfer cyfreithiau newydd wedi dod i ben - nawr, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU