Mesur Addysg a Sgiliau
Diben y Mesur hwn yw hyrwyddo rhagoriaeth mewn ysgolion a helpu i sicrhau bod pob ysgol yn dod yn ysgol dda; sicrhau system sgiliau sy'n cael ei gyrru gan gwsmeriaid a phrentisiaeth; creu rheoleiddiwr newydd ar gyfer cymwysterau a phrofion, yn ogystal â chreu asiantaeth ddatblygu ar gyfer y cwricwlwm, asesu a chymwysterau.
Prif elfennau'r Mesur
Prif elfennau'r Mesur yw:
- hyrwyddo rhagoriaeth mewn ysgolion a mynediad teg i ysgolion da, drwy gymryd y pwerau priodol a sicrhau bod awdurdodau lleol yn ymyrryd pan fydd hynny'n angenrheidiol er mwyn sicrhau bod o leiaf 30% o ddisgyblion pob ysgol yn cael 5 gradd TGAU rhwng A* - C, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg; cryfhau'r pwerau sydd gan rieni i sicrhau bod eu plant yn cael addysg bersonol o safon uchel, addysg bersonol a sicrhau yr ymdrinnir â chwynion rhieni mewn ffordd glir ac agored; gwella ymddygiad a phresenoldeb ac adfywio Unedau Atgyfeirio Disgyblion a darpariaethau eraill y tu allan i ysgolion prif ffrwd a chryfhau partneriaethau lleol
- trosglwyddo'r cyfrifoldeb â'r arian ar gyfer cyflwyno addysg a hyfforddiant i bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed i awdurdodau lleol; a chreu corff cyhoeddus anadrannol newydd i gyflawni rhai swyddogaethau yn ymwneud ag addysg a sgiliau cyn-19 (Asiantaeth Dysgu Pobl Ifanc)
- trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros addysg a hyfforddiant troseddwyr ifanc mewn carchar i bobl ifanc i awdurdodau lleol
- cryfhau gallu'r Ymddiriedolaethau Plant i wella canlyniadau i blant, pobl ifanc a'u teuluoedd, yn enwedig er mwyn gwneud trefniadau ar gyfer canfod anghenion ychwanegol plant yn gynnar a'u helpu
- cryfhau'r pwerau rheoleiddio cymwysterau, a throsglwyddo'r pwerau hynny o'r Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (QCA) i reoleiddiwr annibynnol newydd ar gyfer Lloegr, sef Swyddfa Rheoleiddio Cymwysterau ac Arholiadau (Ofqual); a sefydlu Asiantaeth Datblygu Cymwysterau a Chwricwlwm er mwyn parhau i gyflawni'r swyddogaethau sydd gan QCA yn weddill
- darparu sail statudol ar gyfer y rhaglen brentisiaeth, creu Gwasanaeth Prentisiaethau Cenedlaethol newydd, sefydlu'r hawl statudol cyntaf ar brentisiaethau ar gyfer pobl ifanc sydd â chymwysterau priodol, a sicrhau bod ysgolion yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am yrfaoedd a phrentisiaethau
- sicrhau system sgiliau i oedolion ar sail galw, wedi'i llywio gan ddysgwyr a chyflogwyr; bydd gwasanaeth symud ymlaen mewn gyrfa i oedolion yn cael ei roi ar waith gan yr Asiantaeth Ariannu Sgiliau ôl-19 oed newydd
- cryfhau hyfforddiant sgiliau yn y gweithle, gan gynnwys creu hawl i gyflogeion ofyn i'w cyflogwyr am amser o'r gwaith i gyflawni hyfforddiant perthnasol
- diwygio'r rheolau am effaith ansolfedd personol ar y rhai sydd â benthyciadau myfyrwyr, gan sicrhau triniaeth gyson i'r rhai sy'n ddarostyngedig i Gytundeb Gwirfoddol Unigol a'r rhai sy'n wynebu achos o fethdalu