Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft yn cynnwys drafft o gynigion y Llywodraeth ynghylch cyfreithiau newydd ar gyfer sesiwn nesaf y Senedd, ac yn rhoi cyfle i chi wneud sylwadau ar y Mesurau cyn iddynt gael eu cyhoeddi ar eu ffurf derfynol yn Araith y Frenhines.

Deddfu ym Mhrydain

Cyhoeddodd y Llywodraeth ei Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft gyntaf ym mis Gorffennaf 2007. Mae'r penderfyniad i gyhoeddi rhaglen ar ffurf drafft yn cyd-fynd â nod y Llywodraeth o wneud y broses ddeddfu yn fwy agored a chynyddu cyfraniad y cyhoedd. Gallwch wneud sylwadau ar y rhaglen gyfan drwy glicio ar y ddolen isod - gallwch weld y ddogfen yn ei chyfanrwydd yno hefyd.

Mae'r Rhaglen yn rhoi'r cyfle i chi edrych ar yr holl Fesurau sy'n cael eu hystyried - ond gan mai drafft ydyw, mae'r Llywodraeth yn disgwyl iddi ddatblygu a newid dros y flwyddyn. Mae'n bosib y bydd cynnwys Mesurau unigol yn newid ac efallai caiff Mesurau newydd eu hychwanegu cyn Araith y Frenhines wrth i faterion newydd godi ac yn sgil yr ymgynghoriad.

Cael Dweud Eich Dweud - Ymgynghoriad y Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r Llywodraeth yn croesawu sylwadau cyffredinol am ei chynigion i gyd, a hefyd yn croesawu sylwadau am faterion polisi penodol a Mesurau unigol. Ceir manylion sut y gallwch ddweud eich dweud ar wefan Arweinydd Tŷ'r Cyffredin. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw 6 Awst 2008.

Yn nes ymlaen eleni, bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd.

Caiff yr hyn a ddywedir yn ystod yr ymgynghoriad ei ystyried wrth gynhyrchu'r rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer sesiwn 2008-09 y Senedd.

Y Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft - digwyddiadau rhanbarthol

Mae digwyddiadau ymgynghorol rhanbarthol yn cael eu trefnu ledled y DU. Caiff manylion llawn y digwyddiadau, megis ble y cânt eu cynnal, pa fath o ddigwyddiadau ydynt a phwy fydd yn bresennol ymhob un ohonynt, eu cyhoeddi ar wefan Arweinydd Tŷ'r Cyffredin - cliciwch ar y ddolen isod, sy'n arwain at fap rhyngweithiol, i weld yr holl wybodaeth y bydd ei hangen arnoch i gymryd rhan.

Additional links

Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion ar gyfer cyfreithiau newydd wedi dod i ben - nawr, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU