Mesur Mynediad at y Môr a'r Arfordir
Diben y Mesur hwn yw gwella a symleiddio trefniadau ar gyfer rheoli datblygu morol ac amddiffyn yr amgylchedd morol a bioamrywiaeth, gan gynnwys system gynllunio newydd ar gyfer yr ardal forol, a darparu mwy o fynediad hamdden i arfordir Lloegr.
Prif elfennau'r Mesur
Prif elfennau'r Mesur yw:
- sicrhau llwybr hir o amgylch arfordir Lloegr, yn cynnwys traethau, clogwyni, creigiau a thwyni, gyda mynediad i'r cyhoedd gerdded ar hyd yr arfordir a gweithgareddau hamdden eraill
- sefydlu Sefydliad Rheolaeth Forol ar gyfer y dyfroedd o amgylch Lloegr a'r ardal oddi ar y tir o amgylch y DU
- cyflwyno system gynllunio forol newydd, gydag amcanion hirdymor ar gyfer yr ardal forol o amgylch y DU ac, ar ôl hynny, creu cynlluniau morol lleol mwy manwl
- symleiddio'r gyfraith ar drwyddedu datblygu morol fel mai dim ond un drwydded, cyn belled ag y bo modd, sydd ei angen ar gyfer pob datblygiad
- darparu pwerau i ddynodi rhanbarthau cadwraeth forol ac amddiffyn y rhanbarthau hynny rhag gweithgareddau niweidiol
- cryfhau a moderneiddio'r broses o drwyddedu a rheoli pysgodfeydd morol, mudol, dŵr ffres a physgod cregyn, gan gynnwys creu Awdurdodau Pysgodfeydd a Chadwraeth y Glannau a chyflwyno cynllun i reoli symudiadau pysgod byw
- symleiddio a moderneiddio pwerau gorfodi ar gyfer pysgodfeydd a chadwraeth natur, darparu cynllun sancsiynau sifil ar gyfer troseddau'n ymwneud â chadwraeth trwyddedu a natur a chynllun cosbi gweinyddol ar gyfer troseddau'n ymwneud â physgodfeydd