Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Mesur Diogelwch Trafnidiaeth

Pwrpas y Mesur hwn yw sefydlu trefniadau newydd ar gyfer diogelwch mewn meysydd awyr a gweithredu rhwymedigaethau rhyngwladol y DU i fynd i'r afael â therfysgaeth ar y môr.

Prif elfennau'r Mesur

Prif elfennau'r Mesur hwn yw:

- Gweithredu argymhellion Adolygiad Annibynnol o Blismona Meysydd Awyr 2006, gan gynnwys y canlynol:

  • dylai mwyafrif y meysydd awyr yn y Deyrnas Unedig gytuno ar gynllun diogelwch meysydd awyr lleol gyda'u prif rhanddeiliaid, yn seiliedig ar ddadansoddiad bygythiad a risg a gytunwyd arno
  • gweithredwyr y meysydd awyr a ddylai dalu costau elfen blismona'r cynllun hwn

- Dilysu Protocolau 2005 i'r Gynhadledd ar gyfer Atal Gweithredoedd Anghyfreithlon yn erbyn Diogelwch Morol fel rhan o gyfraith y DU, drwy greu nifer o droseddau newydd yng nghyswllt cyflawni terfysgaeth ar y môr, er enghraifft:

  • defnyddio llong i gludo arfau distryw mawr neu ei defnyddio mewn unrhyw ffordd arall sy'n achosi marwolaethau, anafiadau neu ddifrod difrifol
  • defnyddio llong neu blatfform sefydlog i weithredu unrhyw ffrwydryn, deunydd ymbelydrol neu arf Biolegol, Cemegol neu Niwclear neu unrhyw sylwedd peryglus arall i achosi marwolaethau neu anafiadau; neu ddefnyddio unrhyw rai o'r sylweddau hynny yn erbyn llong neu blatfform sefydlog
  • rhoi lloches i unigolyn sydd wedi cyflawni trosedd dan y Protocolau ar fwrdd llong.

- Caniatáu i swyddogion gorfodi (e.e. aelodau o'r Llynges Frenhinol) wneud y canlynol:

  • byrddio llongau a'u cadw yn yr unfan pan geir sail resymol dros amau bod y llong, neu unigolyn ar fwrdd y llong, yn ymwneud â throsedd dan y Protocolau
  • chwilio am dystiolaeth a'i hatafaelu ac arestio unigolion a amheuir o gyflawni troseddau perthnasol
  • byrddio llongau a amheuir o ymwneud â môr-ladrad

Additional links

Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion ar gyfer cyfreithiau newydd wedi dod i ben - nawr, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU