Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Mesur Diwygio'r Gyfundrefn Lles

Diben y Mesur hwn yw diwygio'r systemau lles a budd-daliadau ymhellach er mwyn gwella'r gefnogaeth a'r cymhellion i bobl symud o fudd-daliadau i'r gwaith, a darparu mwy o ddewis a rheolaeth i bobl anabl. Mae'r llywodraeth yn parhau i fod yn ymroddedig i wneud cynnydd tuag at y targed o ran tlodi plant. Cyn y mesur, bydd Papur Gwyrdd ac ymgynghoriad llawn a fydd yn edrych ar ddewisiadau ar gyfer moderneiddio'r system budd-daliadau, rhoi gwerth am arian i'r trethdalwr a darparu cefnogaeth i bobl pan fydd ei hangen fwyaf arnynt. Bydd y newidiadau hefyd yn canolbwyntio ar hyrwyddo cyfrifoldeb personol ac annibyniaeth, gan egluro'r berthynas rhwng y gefnogaeth y gall pobl ei derbyn a'r disgwyliadau y byddant yn cyfranogi'n llawn mewn cymdeithas.

Prif elfennau'r Mesur

Prif elfennau'r Mesur yw:

  • mesurau i'w gwneud yn haws i bobl fanteisio ar y cymorth sylweddol sydd ar gynnig iddynt a, phan fo'n briodol, ymgymryd â hyfforddiant yr ystyrir ei fod yn hanfodol i ganfod cyflogaeth
  • amrywiaeth o fesurau sy'n cryfhau'r contract budd-daliadau rhwng yr unigolyn a chymdeithas – hawl yr unigolyn i gael cefnogaeth os bydd yn cymryd cyfrifoldeb personol clir dros wella ei amgylchiadau ei hun
  • nifer o fesurau i gryfhau gofynion rhieni dibreswyl i gyfrannu at fagwraeth eu plentyn, fel rhan o becyn sy'n rhoi'r lle blaenaf i gyfrifoldeb personol yn y system les
  • mesurau i foderneiddio a symleiddio'r system fudd-daliadau, gan sicrhau bod y gefnogaeth yn rhoi cymorth pan fydd ei angen fwyaf, ac yn y modd mwyaf priodol

Additional links

Rhaglen Ddeddfwriaethol Ddrafft

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus am gynigion ar gyfer cyfreithiau newydd wedi dod i ben - nawr, bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb a gafwyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU