Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Pleidleisio mewn etholiad

Gallwch bleidleisio mewn tair gwahanol ffordd. Yma, cewch wybod beth sy’n digwydd pan fyddwch yn mynd i bleidleisio ar ddiwrnod etholiad, a sut mae pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy os na allwch fynd i’r orsaf bleidleisio.

Cofrestru i bleidleisio

I bleidleisio mewn etholiad a refferendwm yn y DU, rhaid i chi fod ar y gofrestr etholiadol (rhestr o bobl sy’n gymwys i bleidleisio). Cewch wybod mwy yn ‘Cofrestru i bleidleisio’.

Sut mae pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn bwrw'u pleidlais yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio leol – sef ysgol neu neuadd gyfagos fel arfer. Cewch gerdyn pleidleisio cyn yr etholiad, a bydd hwnnw’n dweud wrthych lle a phryd i bleidleisio. Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7.00 am a 10.00 pm.

Pan fyddwch yn mynd i bleidleisio, bydd y staff yn gwirio'ch enw a'ch cyfeiriad ac yn rhoi papur pleidleisio i chi. Darllenwch y papur pleidleisio’n ofalus. Bydd yn rhestru'r pleidiau a’r ymgeiswyr y cewch bleidleisio drostynt, ac yn dweud wrthych sut mae bwrw’ch pleidlais.

Chaiff neb weld dros bwy yr ydych wedi pleidleisio oherwydd byddwch yn pleidleisio mewn bwth gyda sgrin ar bob ochr. Pan fyddwch wedi nodi'ch pleidlais ar bapur, plygwch y papur pleidleisio yn ei hanner a rhowch ef yn y blwch.

Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, gofynnwch i’r staff eich helpu.

Sut mae pleidleisio drwy’r post

Os byddwch yn gwneud cais mewn da bryd cyn etholiad, cewch bleidleisio drwy’r post. Gall unrhyw un wneud cais am bleidlais bost – does dim angen i chi roi rheswm.

Gellir anfon pleidlais bost i'ch cartref neu i unrhyw gyfeiriad arall o’ch dewis. Gallwch wneud cais am bleidlais bost ar gyfer un etholiad yn unig, ar gyfer cyfnod penodol, neu’n barhaol.

Er diogelwch, rhaid i chi roi eich dyddiad geni a’ch llofnod wrth wneud cais, ac eto pryd bynnag y pleidleisiwch drwy’r post. Llenwch eich papur pleidleisio’n gyfrinachol, caewch ef eich hun, ac ewch ag ef i’r blwch postio eich hun os gallwch.

Cewch wybod mwy a gwneud cais am bleidlais bost drwy argraffu ffurflen gais o wefan Fy Mhleidlais I, neu drwy gysylltu â'ch swyddfa cofrestru etholiadol leol.

Sut mae pleidleisio drwy ddirprwy

Os na allwch bleidleisio’ch hun, cewch ofyn i rywun bleidleisio ar eich rhan, gan ddweud wrthynt dros bwy yr ydych am bleidleisio. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy. Pan fyddwch yn gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, rhaid i chi roi rheswm dilys.

Gallwch wneud cais am bleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer un etholiad yn unig, ar gyfer cyfnod penodol, neu’n barhaol. Efallai y bydd yn rhaid i’ch cais gael ei gefnogi gan rywun fel eich meddyg neu’ch cyflogwr. Ceir gwahanol ffurflenni cais, yn dibynnu ar eich sefyllfa:

  • ar gyfer etholiad penodol (a chithau ar eich gwyliau, er enghraifft)
  • oherwydd anabledd
  • oherwydd eich gwaith
  • oherwydd eich bod ar gwrs addysgol
  • oherwydd eich bod yn byw dramor
  • ar gyfer Gweision y Goron neu aelodau o Luoedd Arfog Ei Mawrhydi
  • oherwydd argyfwng meddygol

Cewch wybod mwy ac argraffu ffurflen gais oddi ar wefan Fy Mhleidlais I, neu cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol leol.

Pam mae eich pleidlais yn bwysig

Bydd gwefan Fy Mhleidlais I yn eich helpu i ddysgu mwy am sut mae pleidleisio a thros beth yr ydych yn pleidleisio. Mae’n dweud wrthych pa etholiadau sydd ar droed yn eich ardal chi, ac yn darparu ffurflenni cofrestru a manylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol leol yng Nghymru a Lloegr, a gallwch gofrestru i bleidleisio yma hefyd.

Bydd angen i chi nodi eich cod post neu eich awdurdod lleol er mwyn defnyddio'r wefan.

Eich hawl i bleidleisio

Cewch bleidleisio mewn etholiadau seneddol yn y DU ar ôl i chi gofrestru ar y gofrestr etholiadol, ac ar yr amod bod y canlynol hefyd yn wir:

  • rydych yn 18 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad
  • rydych yn ddinesydd Prydeinig, neu'n ddinesydd yn y Gymanwlad neu yng Ngweriniaeth Iwerddon (ac yn byw yn y Deyrnas Unedig)
  • nid ydych yn anghymwys i bleidleisio yn ôl y gyfraith (er enghraifft, os ydych yn y carchar)

Mewn etholiad cyffredinol, ni chaiff y bobl ganlynol bleidleisio:

  • unrhyw un sy'n iau na 18 mlwydd oed
  • aelodau o Dŷ'r Arglwyddi, gan gynnwys arglwyddi oes, archesgobion ac esgobion yr Eglwys yn Lloegr ac arglwyddi etifeddol sydd wedi cadw'u sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi - fodd bynnag, mae gan y bobl hyn hawl i bleidleisio mewn etholiadau awdurdodau lleol, cyrff datganoledig a Senedd Ewrop
  • dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd - cânt, fodd bynnag, bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol, cyrff datganoledig ac ar lefel senedd Ewrop
  • dinasyddion unrhyw wlad ar wahân i Weriniaeth Iwerddon a gwledydd y Gymanwlad
  • pobl sydd wedi'u dyfarnu'n euog a'u dedfrydu i gyfnod dan glo – er y gall y canlynol bleidleisio os ydynt ar y gofrestr etholiadol: carcharorion sydd ar remand, carcharorion sydd heb eu dyfarnu'n euog a charcharorion sifil sydd heb dalu dirwy neu sydd wedi torri ymrwymiadau llys (ymrwymiad i'r llys neu ynad)
  • unrhyw un sydd wedi'i ddyfarnu'n euog o fewn y pum mlynedd diwethaf o arferion llwgr neu anghyfreithlon yn ymwneud ag etholiadau

Atal twyll mewn etholiadau

Ceir deddfau a mesurau diogelwch i helpu i atal twyll mewn etholiadau. Mae'n drosedd:

  • gwneud cais ffug am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy
  • rhoi gwybodaeth ffug i’r swyddog cofrestru etholiadol neu fethu rhoi gwybodaeth iddo ar unrhyw bryd
  • dylanwadu ar rywun yn ormodol, hyd yn oed os nad yw hynny’n effeithio ar eu pleidlais

Mae gan bapurau pleidleisio nod diogelwch a chod bar, felly os bydd pleidlais bost yn mynd ar goll neu’n cael ei dwyn, gellir cynnal archwiliadau diogelwch. Ar ôl pob etholiad, cyhoeddir rhestr o bawb a bleidleisiodd drwy’r post (rhestr debyg i’r honno a geir ar gyfer gorsafoedd pleidleisio), er mwyn i chi allu gwneud yn siŵr bod eich pleidlais wedi cael ei chyfri. Mewn ymchwiliad, gall yr heddlu ofyn i bobl a wnaethant bleidleisio drwy’r post ai peidio.

Gallwch wneud cais am arsyllu trefn yr etholiad mewn gorsafoedd pleidleisio, wrth roi a derbyn papurau pleidleisio drwy’r post, ac wrth gyfri’r pleidleisiau.

Additional links

Cofrestru i bleidleisio

Cael gwybod mwy am bleidleisio a llwytho ffurflen gofrestru oddi ar y we

Allweddumynediad llywodraeth y DU