Penodiad ar fwrdd corff cyhoeddus yw penodiad cyhoeddus. Sefydlir y cyrff hyn gan weinidogion y llywodraeth ond nid yw'r cyrff yn rhan o adrannau'r llywodraeth. Byddant yn rhoi cyngor annibynnol neu'n cyflawni ryw agwedd o wasanaeth cyhoeddus.
Mae mwy na 800 o gyrff cyhoeddus sy'n cael eu noddi gan adrannau llywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae eu cyfraniad yn fawr wrth lunio polisïau cenedlaethol, dylanwadu ar y polisïau hynny, a gwneud penderfyniadau. Mae rhai, fel y Gwasanaeth Cynghorol ar Gamddefnyddio Cyffuriau, yn rhoi cyngor; mae eraill, fel yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion, yn darparu gwasanaethau cyhoeddus.
Mae cyrff cyhoeddus yn gweithredu'n annibynnol ar weinidogion, er mai gweinidogion, yn y pen draw, sy'n gyfrifol amdanynt. Fe'u gelwir hefyd yn gyrff cyhoeddus anadrannol (NDPB).
Y peth pwysicaf wrth gael eich penodi i swydd gyhoeddus yw eich bod yn barod i roi eich amser, eich sgiliau, eich gwybodaeth a'ch ymrwymiad. Mae angen gwybodaeth a medrusrwydd arbenigol ar gyfer rhai penodiadau, ond nid yw hyn yn wir ar gyfer y mwyafrif helaeth ohonynt. Swyddi rhan-amser yw'r rhan fwyaf ohonynt yn gofyn am ymrwymiad o ryw ddau neu dri diwrnod y mis, yn ogystal ag amser i ddarllen papurau a pharatoi ar gyfer cyfarfodydd.
Bydd penodiad cyhoeddus yn rhoi cyfle i chi wneud y canlynol:
Ceir tâl am wneud rhai o'r swyddi cyhoeddus. Ad-delir costau fel costau teithio, costau gofal plant a chostau gofal i'r henoed fel arfer.
Amrywiaeth
Mae angen gwella amrywiaeth ar fyrddau cyrff cyhoeddus, felly croesawir yn arbennig geisiadau gan fenywod, pobl o gefndir lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl.
Gall y profiad a enillwyd yn sgil cyflawni gwaith gwleidyddol fod yn rhinwedd ddilys ar gyfer swydd, ond ni fydd gweithgarwch neu ymlyniad gwleidyddol yn effeithio ar eich siawns. Pan fyddwch yn gwneud cais, byddwch yn cael ffurflen gweithgarwch gwleidyddol. Mae'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn mynnu eich bod yn ei llenwi. Dim ond at ddibenion monitro y mae hyn, ac ni fydd y wybodaeth yn cael ei defnyddio wrth ddewis person i'w benodi.
Bydd angen cydbwysedd gwleidyddol ar nifer fach o gyrff, a gwneir hyn fel arfer drwy ofyn i bleidiau gwleidyddol enwebu ymgeiswyr ar gyfer y penodiadau.
Mae penodiadau cyhoeddus yn cynnwys ystod eang o gyfrifoldebau. Yn gyffredinol, mae'r canlynol yn debygol o fod yn bwysig:
Gallai'r profiad hwn amlygu ei hun yn eich gyrfa neu mewn ffyrdd amrywiol eraill, megis mewn gwaith gwirfoddol. Efallai i chi fod yn llywodraethwr ysgol, yn aelod o ymddiriedolaeth dai neu siambr fasnach, neu efallai i chi fod yn rhan o grŵp pwyso.
Gofynnir i chi lenwi ffurflen gais. Am fwy o wybodaeth am y mathau o gwestiynau y gellir eu gofyn i chi, defnyddiwch y ddolen isod.
Bydd y ffordd yr eir ati i ddewis yr ymgeisydd gorau yn dibynnu ar y swydd. Bydd y broses benodi ar gyfer swydd genedlaethol bwysig - swydd a fyddai'n denu nifer o ymgeiswyr - yn fwy cymhleth na'r broses benodi ar gyfer swydd arbenigol ar gorff ymgynghorol llai.
Fodd bynnag, yn gyffredinol:
Mae'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus annibynnol yn rheoleiddio, yn monitro ac yn adrodd ar ddulliau gweithredu o ran penodiadau cyhoeddus.
Mae'r Cod Ymarfer yn nodi y dylid penodi ar sail teilyngdod ac y dylid cymryd gofal, yn ystod pob cam o'r broses, i beidio â gwahaniaethu yn erbyn neb am unrhyw reswm.
Ewch i wefan Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus a chael gwybod mwy am ei swyddogaeth ac am ei gyfrifoldebau.