Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Amrywiaeth a safonau mewn penodiadau cyhoeddus

Mae'r llywodraeth yn credu y dylai byrddau cyrff cyhoeddus fanteisio i'r eithaf ar yr holl dalentau sydd ar gael, ac y dylent fod yn adlewyrchiad tecach o gymdeithas heddiw.

Dewis

Mae'r broses o ddewis yn seiliedig ar deilyngdod, ac wrth ystyried y drefn ddewis:

  • rhaid iddi fod yn deg, yn agored ac yn dryloyw
  • dylai gydnabod patrymau gyrfa nad ydynt yn draddodiadol
  • dylai annog maes eang o ymgeiswyr o ystod eang o gefndiroedd a'r rheini'n meddu ar brofiadau perthnasol

Amrywiaeth

Mae'r llywodraeth wedi gosod targedau cyffredinol i fynd i'r afael â'r ffaith nad yw rhai grwpiau'n cael cynrychiolaeth ddigon teg. Mae hyn yn cynnwys:

  • merched a dynion i'w cynrychioli'n gyfartal
  • cynrychioli pobl ddu a phobl o gefndir lleiafrifoedd ethnig ar sail pro-rata
  • mwy o gyfranogaeth gan bobl anabl

Mae pob adran o'r llywodraeth yn pennu ei thargedau a'i hamcanion ei hun ochr yn ochr â'r ymrwymiadau hyn.

Cymerir ffigurau o Gyfeiriaduron Cyrff Cyhoeddus, a gyhoeddir yn flynyddol gan Swyddfa'r Cabinet. Mae'r rhain yn rhoi cipolwg cynhwysfawr o'r cyrff cyhoeddus a noddir gan lywodraeth y DU ar 31 Mawrth bob blwyddyn.

Rhinweddau ar gyfer penodiad cyhoeddus

Anhunanoldeb

Dylai'r rhai hynny sydd mewn swyddi cyhoeddus wneud penderfyniadau er budd y cyhoedd. Ni ddylent wneud penderfyniadau i gael budd ariannol na budd materol arall o unrhyw fath iddynt eu hunain, eu teulu na’u ffrindiau.

Didwylledd

Ni ddylai deiliaid swyddi cyhoeddus osod eu hunain dan unrhyw rwymedigaeth ariannol neu arall i unigolion neu sefydliadau allanol a allai ddylanwadu arnynt wrth ymgymryd â'u dyletswyddau swyddogol.

Gwrthrychedd

Wrth ymgymryd â busnes cyhoeddus, gan gynnwys gwneud penodiadau cyhoeddus, dyfarnu contractau neu argymell pobl am wobrau a buddion, dylai deiliaid swyddi cyhoeddus wneud dewisiadau ar sail teilyngdod.

Atebolrwydd

Mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol i’r cyhoedd am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd a rhaid iddynt fod yn fodlon derbyn unrhyw archwiliad sy'n briodol i'w swydd.

Bod yn agored

Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod mor agored â phosib am yr holl benderfyniadau a’r gweithredoedd a wnânt. Dylent nodi rhesymau am eu penderfyniadau a chyfyngu ar wybodaeth dim ond pan fo lles ehangach y cyhoedd yn amlwg yn mynnu hynny.

Gonestrwydd

Mae gan y rhai hynny sydd mewn swyddi cyhoeddus ddyletswydd i ddatgan unrhyw fuddiannau preifat mewn perthynas â’u dyletswyddau cyhoeddus ac i gymryd camau i ddatrys unrhyw wrthdaro a gyfyd mewn modd sy’n gwarchod buddiannau’r cyhoedd.

Arweinyddiaeth

Dylai deiliaid swyddi cyhoeddus hyrwyddo a chefnogi’r egwyddorion hyn trwy arweinyddiaeth a thrwy esiampl.

Allweddumynediad llywodraeth y DU