Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gwneud cwyn yn erbyn cyrff llywodraethol a chyrff cyhoeddus

Os ydych chi'n meddwl i chi gael eich trin yn annheg gan sefydliad, corff cyhoeddus neu un o adrannau'r llywodraeth, ac yr hoffech wneud cwyn, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â'r corff priodol i ddelio â'ch problem.

Sefydliadau'r llywodraeth a chyrff cyhoeddus

mae'r Ombwdsmon yn delio â chwynion am wasanaeth gwael, triniaeth annheg a methiannau gweinyddol

Os oes gennych gŵyn am un o adrannau'r llywodraeth, gallwch fynd â'r mater at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd (a elwir hefyd yn Gomisiynydd Gweinyddiaeth Seneddol). Mae'r Ombwdsmon yn delio â chwynion gan aelodau o'r cyhoedd am wasanaeth gwael, triniaeth annheg neu fethiannau gweinyddol o du adrannau'r llywodraeth a rhai cyrff cyhoeddus eraill (yn cynnwys yr NHS yn Lloegr - gweler Cwynion am wasanaethau'r NHS, isod) y caiff yr Ombwdsmon ymchwilio iddynt.

Cyn cysylltu â'r Ombwdsmon, dylech geisio cwyno wrth y sefydliad sy'n gysylltiedig â'r gŵyn. Os na dderbyniwch ateb sy'n eich bodloni, nes os na chewch ymateb, gofynnwch i'ch Aelod Seneddol anfon eich cwyn at yr Ombwdsmon, neu gallech ddefnyddio ffurflen ar-lein yr Ombwdsmon i weld a all ddelio â chwyn fel eich un chi.

I gael gwybod a all yr Ombwdsmon ymchwilio i'r sefydliad yr ydych chi am gwyno amdano, edrychwch ar y rhestr o sefydliadau perthnasol.

Cwynion am lywodraeth leol

Os oes gennych gŵyn am lywodraeth leol, ceir Ombwdsmyn Llywodraeth Leol ar wahân ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban. Maent yn ymchwilio i gwynion am y prif gynghorau (nid cynghorau tref, plwyf neu gymuned) a chyrff eraill penodol. Byddant yn ymchwilio i gwynion am y rhan fwyaf o faterion sy'n ymwneud â chynghorau, gan gynnwys tai, cynllunio, addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Yn ôl y gyfraith, ni ellir ystyried rhai mathau o gwynion, megis cwynion yn ymwneud â phersonél a chwynion am y modd y rheolir ysgolion yn fewnol.

Rhaid i chi roi cyfle i'r cyngor perthnasol ddelio â'r gŵyn ei hun yn gyntaf. Y peth gorau yw defnyddio trefn gwyno'r cyngor ei hun er mwyn gwneud hyn. Os nad ydych yn fodlon â'r mesurau y mae eich cyngor yn eu cymryd, gallwch wedyn anfon cwyn ysgrifenedig at eich Ombwdsmon Llywodraeth Leol, neu ofyn i gynghorydd wneud hynny ar eich rhan.

Cwynion am gynghorwyr unigol

Mae Bwrdd Safonau Lloegr yn sicrhau bod safonau ymddygiad moesegol yn cael eu cynnal a'u cadw ar hyd ac ar led awdurdodau lleol yn Lloegr ac mae'n delio gyda chwynion o gamymddwyn yn erbyn cynghorwyr unigol. Mae hefyd yn ymdrin â chwynion am awdurdodau tân, awdurdodau parciau cenedlaethol, gwasanaethau cludiant a gwasanaethau cyhoeddus eraill. Bydd angen i chi nodi eich cwyn ar bapur.

Cwynion am sefydliadau a chyrff y Gymuned Ewropeaidd

Sefydlwyd swydd yr Ombwdsmon Ewropeaidd i ymdrin â chwynion am gamweinyddu ymysg sefydliadau a chyrff y Gymuned Ewropeaidd. Fe allwch chi gwyno wrth yr Ombwdsmon os yw sefydliad yn methu â gwneud rhywbeth y dylai fod wedi'i wneud, os yw'n gwneud rhywbeth yn y ffordd anghywir, neu os yw'n gwneud rhywbeth na ddylai fod wedi'i wneud. Dyma rai o'r problemau mwyaf cyffredin y delir â hwy:

  • oedi diangen
  • gwrthod rhoi gwybodaeth
  • gwahaniaethu
  • camddefnyddio grym

Cwynion am dai

Mae'r Gwasanaeth Ombwdsmon Tai yn ymdrin â chwynion gan bobl sy'n derbyn gwasanaeth uniongyrchol gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn Lloegr, a chan landlordiaid penodol eraill sy'n aelodau o'r cynllun, gan gynnwys cyrff sy'n dod i reoli tai a drosglwyddwyd gan awdurdodau lleol. Mae rhai landlordiaid preifat hefyd yn aelodau o'r cynllun. Yr Ombwdsmon Llywodraeth Leol sy'n ymdrin â chwynion am dai cyngor.

Cwynion am Wasanaethau'r NHS

Gall yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd gynnal ymchwiliadau annibynnol i gwynion am driniaeth neu wasanaeth gwael a ddarparwyd gan yr NHS yn Lloegr. Mae'n ymchwilio i gwynion am wasanaethau'r NHS a ddarperir gan ysbytai, awdurdodau iechyd, ymddiriedolaethau, meddygon, deintyddion, fferyllwyr, optometryddion a darparwyr gofal iechyd eraill. Gall ymchwilio hefyd i gwynion am ddarparwyr iechyd preifat os mai'r NHS oedd yn talu am y driniaeth.

Cwynion am yr heddlu

Mae Comisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu yn derbyn cwynion gan bobl sydd wedi dioddef camymddygiad gan berson sy'n rhan o wasanaeth yr heddlu. Gallwch wneud cwyn os ydych wedi bod yn dyst i gamymddwyn honedig, neu os oeddech yn bresennol pan ddigwyddodd hynny, ac i chi, yn sgil hynny, ddioddef colled neu drallod neu y rhoddwyd chi mewn perygl neu risg. Gall ffrindiau neu berthnasau'r sawl a ddioddefodd y camymddwyn hefyd gwyno, os ydynt wedi'u niweidio gan effeithiau'r digwyddiad ar y person.

Gallai 'camymddwyn' olygu bod heddwas neu aelod o staff yr heddlu wedi ymddwyn yn anghwrtais tuag atoch neu wedi defnyddio gormod o rym. Fe allai hefyd gynnwys arestio anghyfreithlon neu sathru ar eich hawliau.

Allweddumynediad llywodraeth y DU