Mae gan ddinasyddion y DU rai hawliau dynol sylfaenol y mae'n ofyn cyfreithiol i lywodraethau ac awdurdodau cyhoeddus eu parchu. Daeth y rhain yn gyfraith fel rhan o Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn rhoi grym cyfreithiol yn y DU i'r rhyddid a'r hawliau sylfaenol a geir yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (ECHR). Nid hawliau sy'n ymwneud â materion bywyd a marwolaeth yn unig ydynt, fel rhyddid rhag cael eich arteithio a'ch lladd, maent hefyd yn effeithio ar eich hawliau mewn bywyd bob dydd: beth gewch chi ei ddweud a'i wneud, eich credoau, eich hawl i gael treial teg a llawer o hawliau sylfaenol tebyg eraill.
Nid yw'r hawliau'n absoliwt – mae gan lywodraethau'r grym i'w cyfyngu neu i'w rheoli mewn cyfnodau o argyfwng neu angen difrifol. Mae gennych hefyd gyfrifoldeb i barchu hawliau pobl eraill – ac i beidio â defnyddio'ch hawliau chi mewn ffordd sy'n debygol o'u rhwystro rhag gallu defnyddio'u hawliau hwy.
Dyma'ch hawliau dynol:
Os camddefnyddir unrhyw hawl neu ryddid a enwir uchod mae gennych hawl i ateb effeithiol yn ôl y gyfraith, hyd yn oed os mai rhywun mewn awdurdod, er enghraifft plismon, wnaeth gamddefnyddio'r rhyddid neu'r hawl.
Os ydych chi mewn sefyllfa lle rydych o'r farn bod eich hawliau dynol yn cael eu sathru, fe'ch cynghorir i geisio datrys y broblem heb fynd i'r llys drwy ddefnyddio cyfryngu neu gorff cwyno mewnol.
Os credwch nad yw eich hawliau wedi cael eu parchu ac na allwch ddatrys y broblem y tu allan i'r llys, mae gennych hawl i ddod ag achos gerbron y llys neu'r tribiwnlys priodol yn y DU. Yna, bydd y llys neu'r tribiwnlys yn ystyried eich achos.
Cyn penderfynu cymryd camau cyfreithiol, mae'n bwysig eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol.
Efallai y gall Cyngor ar Bopeth eich helpu ac fe all Cyngor Cyfreithiol Cymunedol eich rhoi mewn cysylltiad â'r rheini sy'n darparu cyngor yn eich ardal. Ceir hefyd nifer o Ganolfannau Cyfraith ledled y DU, sy'n gallu cynnig cyngor a chymorth i chi ar amrywiol faterion.
Mae Gwasanaeth Llysoedd Ei Mawrhydi yn darparu llyfryn, 'Deddf Hawliau Dynol 1998 – Gwybodaeth i Ddefnyddwyr Llys', sy'n rhoi gwybodaeth ynghylch sut mae gwneud cais am iawndal neu am arian sy'n ddyledus dan y Ddeddf Hawliau Dynol. Mae'n nodi rhai pethau pwysig i chi eu hystyried cyn i chi wneud cais o'r fath.
Mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wedi creu canllaw rhad ac am ddim am y Ddeddf Hawliau Dynol. Hefyd mae llyfryn ar gael sy’n egluro’r Ddeddf Hawliau Dynol mewn termau pob dydd i bobl gydag anawsterau dysgu. Gellir llwytho copïau oddi ar wefan y Weinyddiaeth Gyfiawnder neu gellir archebu copïau papur am ddim drwy ffonio 020 7210 1437. Mae'r canllaw i'r Ddeddf ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gellir gwneud cais am fersiynau print bras, Braille neu dapiau sain.
Gellir dilyn y dolenni isod i gael fersiynau PDF sy'n rhoi arweiniad i'r Ddeddf yn yr ieithoedd canlynol: Arabeg, Cantoneeg, Saesneg, Ffrangeg, Gwjarati, Pwyleg, Pwnjabeg, Somalieg, Tamil, Wrdw a Chymraeg.