Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y gyfraith, archifau a gwybodaeth

Yma, cewch wybod sut mae mynd at Gronfa Ddata Cyfraith Statud y DU, ac at gyhoeddiadau, archifau a dogfennau'r llywodraeth.

Y gyfraith, cyhoeddiadau ac adroddiadau

Cyfraith y DU

Mae Cronfa Ddata Cyfraith Statud y DU yn gronfa ddata o gyfraith statudol y Deyrnas Unedig ar y we. Fe'i darperir gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder. Mae'n cynnwys copïau o'r holl ddeddfwriaeth statudol sy'n bodoli ('cyfredol'). Dangosir y Deddfau hynny sydd wedi eu diddymu'n rhannol yn eu ffurf gweithredol cyfredol - gall hyn fod cyn lleied ag un neu ddwy adran. Ni ddangosir adrannau a ddiddymwyd, na Deddfau a ddiddymwyd yn llwyr, ar y wefan.

Trafodion y Senedd

Yr Adroddiad Swyddogol (Hansard) yw'r cofnod gair am air a olygwyd o drafodion dau dŷ'r Senedd. Mae Hansard Tŷ'r Cyffredin yn cynnwys trafodion Siambr Tŷ'r Cyffredin, San Steffan a'r Pwyllgorau Sefydlog. Mae Hansard Tŷ'r Arglwyddi yn cynnwys trafodion Siambr yr Arglwyddi a'r Uwch Bwyllgorau.

Caiff geiriau'r aelodau eu cofnodi gan hepgor unrhyw ail-adrodd, geiriau diangen a chamgymeriadau amlwg, ond ni chaiff ddim ei hepgor sy'n cyfrannu at ystyr yr araith neu sy'n rhan o'r ddadl. Yn ogystal â hynny, mae'r Adroddiadau Swyddogol yn cynnwys Datganiadau Ysgrifenedig ac Atebion Ysgrifenedig Gweinidogion.

Ar gyfer cofnodion Seneddol hwn, mae ystafell chwilio er mwyn i'r cyhoedd allu gweld cofnodion o Dy'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin sy'n dyddio'n ôl i 1497.

Mesurau Cyhoeddus gerbron y Senedd

Gallwch weld manylion am Fesurau sydd gerbron y Senedd yn ogystal â Gwelliannau iddynt a Nodiadau Esboniadol ynglŷn â chynnwys y Mesur.

Cyhoeddiadau swyddogol

Cyhoeddiadau Swyddogol y DU (UKOP) yw'r catalog swyddogol o gyhoeddiadau swyddogol y llywodraeth. Mae'n gyfuniad o gatalog swyddogol y Llyfrfa a'r Catalog Cyhoeddiadau Swyddogol nas Cyhoeddwyd gan y Llyfrfa. Caiff catalog UKOP ei gyhoeddi gan y Llyfrfa (TSO). Y catalogau hyn yw'r ffynonellau diweddaraf a mwyaf cynhwysfawr o wybodaeth lyfryddiaethol am gyhoeddiadau'r llywodraeth yn y DU. Mae UKOP hefyd yn cynnwys miloedd o ddogfennau sydd wedi'u harchifo mewn testun llawn.

Er mwyn gweld y catalog, rhaid i chi danysgrifio.

Papurau Gorchymyn (Papurau Gwyn a Gwyrdd)

Caiff Papurau Gorchymyn yn aml eu disgrifio fel Papurau Gwyn neu Bapurau Gwyrdd, ond nid oes unrhyw ddiffiniad ffurfiol i'r enwau hyn. Dros y blynyddoedd, derbyniwyd mai datganiadau o bolisi'r Llywodraeth yw'r Papurau Gwyn tra mai cynigion yw'r Papurau Gwyrdd sy'n cael eu cyhoeddi i gyd-fynd â thrafodaethau cyhoeddus. Gelwir y papurau'n Bapurau Gorchymyn gan eu bod yn cael eu cyflwyno gerbron y Senedd gan un o Weinidogion y Llywodraeth "ar Orchymyn Ei Mawrhydi".

Mae'r gyfres hon o ddogfennau hefyd yn cynnwys y Cytundebau niferus y mae'r DU wedi ymrwymo iddynt, Ymatebion ffurfiol y Llywodraeth i Adroddiadau Pwyllgorau Dethol a llawer o Adroddiadau o Bwyllgorau Ymchwilio ac Adolygiadau Adrannol.

Datganiadau'r Llywodraeth i'r wasg

Mae gan wefan Rhwydwaith Newyddion y Llywodraeth (GNN) archif o ddatganiadau i'r wasg gan Adrannau'r Llywodraeth a Swyddfeydd Rhanbarthol y Llywodraeth. Mae modd chwilio drwy'r archif.

Archwiliadau'r Llywodraeth

Mae'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn archwilio gwariant cyhoeddus ar ran y Senedd. Mae'n archwilio cyfrifon holl adrannau ac asiantaethau'r llywodraeth ganolog, ynghyd â chyfrifon amryw o gyrff cyhoeddus eraill, ac yn rhoi gwybod i'r Senedd pa mor economaidd, effeithlon ac effeithiol fu eu defnydd o arian cyhoeddus.

Corff cyhoeddus annibynnol yw'r Comisiwn Archwilio sy'n gyfrifol am sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario yn economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol ym meysydd llywodraeth leol, tai, iechyd, cyfiawnder troseddol a'r gwasanaethau tân ac achub.

Ystadegau swyddogol

Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol Ar-lein yn darparu'r ystadegau swyddogol am economi, poblogaeth a chymdeithasau Prydain ar lefel genedlaethol a lleol. Cyhoeddir crynodebau a data manwl yn rhad ac am ddim.

Mae'r adran hefyd yn gyfrifol am y Cyfrifiad sydd wedi cael ei gynnal bob 10 mlynedd ers 1801. Cynhaliwyd y Cyfrifiad diwethaf ddydd Sul 29 Ebrill 2001, ac mae'r canlyniadau a'r dadansoddiadau llawn ar gael i'r cyhoedd eu gweld.

Mae gwefan Ystadegau Cymdogaeth yn galluogi defnyddwyr i weld, cymharu a llwytho ystadegau ar gyfer ardaloedd lleol am amrywiaeth o bynciau gan gynnwys poblogaeth, troseddu, iechyd a thai.

Ffynonellau archifau cenedlaethol ac archifau'r llywodraeth

Yr Archifau Cenedlaethol

Yr Archifau Cenedlaethol sy'n gyfrifol am ofalu am gofnodion y llywodraeth ganolog a'r llysoedd barn, ac am sicrhau bod pawb yn gallu cael golwg arnynt. Y casgliad yw un o'r mwyaf yn y byd ac mae'n ymestyn dros gyfnod di-dor o'r unfed ganrif ar ddeg hyd heddiw. Mae'n berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Deyrnas Unedig. Mae amryw o gasgliadau ar gael ar-lein gan gynnwys cofnodion milwrol, dogfennau hanesyddol, ewyllysiau a chofnodion y cyfrifiad. Mae'r wefan hefyd yn darparu gwybodaeth am sut i chwilio drwy'r archifau ac arddangosfeydd ar-lein.

Gwefannau llywodraeth y DU

Mae nifer o wefannau'r llywodraeth wedi'u harchifo a'r rheiny ar gael ar y we.

Ffynonellau achau teuluol

Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol (GRO)

Mae gan Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol archif helaeth o gofnodion statudol sy'n dyddio'n ôl i ddechrau'r cyfnod cofrestru sifil yn 1837, a gallwch gael copïau o'r tystysgrifau geni, priodas a marwolaeth perthnasol ar gyfer eich ymchwil.

Gwefan y Cofnodion Teuluol

Caiff gwefan y Cofnodion Teuluol ei rhedeg ar y cyd gan Swyddfa'r Cofrestrydd Cyffredinol a'r Archifau Cenedlaethol. Mae'n cynnwys cofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau, cofnodion crefyddol, y cyfrifiad, ewyllysiau, mewnfudo, ymfudo, cofnodion milwrol a mabwysiadu. Mae'r ffynonellau'n cynnwys Swyddfa India, Comisiwn Beddau Rhyfel y Gymanwlad, Amgueddfa Ryfel yr Ymerodraeth, a sawl ffynhonnell arall.

Y cyfrifiad

Cynhelir cyfrifiad yn y DU bob 10 mlynedd. Mae'r cyfrifiadau ar gyfer 1871, 1881, 1891 ac 1901 ar gael ar y we. Rhaid talu ffi i weld ffurflenni unigol unrhyw gyfrifiad.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU