Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Y Comisiynydd Plant

Crëwyd swydd y Comisiynydd Plant i hyrwyddo buddiannau pobl ifanc a phlant drwy Loegr. Bydd yr Athro Al Aynsley-Green yn dechrau ar y swydd ym mis Gorffennaf 2005, tan hynny bydd yn gweithio'n rhan amser yn y swydd.

Sut y cafodd y Comisiynydd ei benodi?

Sefydlwyd y Bwrdd Plant a Phobl Ifanc ym mis Mehefin 2004 i gynghori'r Adran Addysg a Sgiliau a'r Gweinidog dros Blant, Pobl Ifanc a Theuluoedd am faterion polisi ac i fod yn rhan o'r gwaith o recriwtio'r Comisiynydd Plant.

Mae 25 aelod y Bwrdd Plant a Phobl Ifanc rhwng 11 a 19 oed a chawsant eu recriwtio trwy broses ymgeisio o bob rhan o'r DU. Mae ganddynt gefndiroedd amrywiol iawn gan gynnwys profiad o fod mewn gofal, yn ddigartref ac o fod yn rhieni ifanc.

Trwy helpu i lunio'r hysbyseb swydd; cynllunio a marcio'r profion ysgrifenedig ar gyfer yr ymgeiswyr er mwyn helpu i lunio rhestr fer; a thrwy holi'r ymgeiswyr yn bersonol ynghylch sut y byddent yn mynd i'r afael â materion sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc, roedd y bobl ifanc hyn yn gwneud yn siur fod eu barn yn cael ei hystyried.

Beth mae'r Comisiynydd yn ei wneud?

Prif swyddogaeth y Comisiynydd Plant yw hyrwyddo safbwyntiau a buddiannau plant yn Lloegr. Mae gan y Comisiynydd hyblygrwydd o ran pa faterion i'w trin, ond gall ddewis:

  • annog pobl sy'n darparu gwasanaethau i blant a phobl ifanc i ystyried barn pobl ifanc a phlant
  • cynghori'r llywodraeth ar safbwyntiau a diddordebau plant a phobl ifanc
  • ystyried materion neu ymchwilio i faterion sy'n berthnasol i blant a phobl ifanc, gan gynnwys cwynion oddi wrth blant a phobl ifanc, a chyhoeddi adroddiadau ar ei ganfyddiadau

Mae'r Comisiynydd yno i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc. Mae'n cael ei dywys gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sef cytundeb rhyngwladol sy'n pennu sut y dylai plant a phobl ifanc gael eu trin a'r hawliau sydd ganddynt.

Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o safbwyntiau plant a phobl ifanc, mae gan y Comisiynydd hefyd bwerau i roi cychwyn ar ymholiadau i achosion plant a phobl ifanc unigol a fyddai o ddiddordeb i blant a phobl ifanc eraill.

Yn syml, rôl y Comisiynydd yw siarad ar ran plant a phobl ifanc yn Lloegr a gwrando arnynt pan fyddant yn cysylltu ag ef am faterion sy'n peri pryder iddynt.

Oherwydd mai newydd gael ei benodi y mae'r Comisiynydd, mae'n anodd dweud yn union sut y bydd yn defnyddio'i bwerau, ond rhaid iddo gynnwys plant a phobl ifanc Lloegr yn ei waith. Ei gyfrifoldeb ef yw ymgynghori â nhw a chyda sefydliadau sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ar faterion y mae ef yn dewis ymchwilio iddynt.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU