Prif rôl adrannau'r llywodraeth a'u hasiantaethau yw gweithredu polisïau'r llywodraeth a chynghori gweinidogion. Maent yn cael eu staffio gan weision sifil sy'n wleidyddol ddiduedd ac fel arfer derbyniant eu cyllid gan arian a ddarperir gan y Senedd. Yn aml gweithiant ochr yn ochr ag awdurdodau lleol, cyrff cyhoeddus anadrannol, a sefydliadau eraill a noddir gan y llywodraeth.
Weithiau, caiff strwythur a swyddogaeth adrannau eu had-drefnu os oes newidiadau mawr ym mholisi'r llywodraeth. Fodd bynnag, nid yw newid yn y llywodraeth o anghenraid yn effeithio ar swyddogaethau adrannau.
Mae gwaith rhai adrannau (y Weinyddiaeth Amddiffyn er enghraifft) yn cwmpasu'r DU i gyd. Mae adrannau eraill, megis yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn cwmpasu Cymru, Lloegr a'r Alban, ond nid Gogledd Iwerddon. Mae eraill eto, megis yr Adran Addysg a Sgiliau, yn ymwneud yn bennaf â materion yng Nghymru a Lloegr.
Mae gweinidog yn ben ar y rhan fwyaf o adrannau. Fodd bynnag, mae rhai yn adrannau heb weinidog, gyda swyddog parhaol yn ben arnynt a gweinidogion gyda dyletswyddau eraill sy'n rhoi cyfrif amdanynt i'r Senedd. Er enghraifft, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg a Sgiliau sy'n rhoi cyfrif i'r Senedd am waith OFSTED (y Swyddfa Safonau Addysg). Pennaeth OFSTED yw Prif Arolygydd Ysgolion EM yn Lloegr, sy'n annibynnol gan fwyaf ar yr Ysgrifennydd Gwladol.
Corff cyhoeddus rhanbarthol neu genedlaethol yw corff cyhoeddus anadrannol (NDPB), sy'n gweithio'n annibynnol ar y gweinidogion y maent yn atebol iddynt. Ceir dau fath o gorff cyhoeddus anadrannol:
Cyrff cyhoeddus anadrannol gweithredol - cyrff gyda swyddogaethau gweithredol, gweinyddol, masnachol neu reolaethol. Maent yn ymgymryd â swyddogaethau penodol o fewn fframwaith y llywodraeth ond mae maint yr annibyniaeth weithredol yn amrywio. Mae'r rhain yn cynnwys Cyngor Celfyddydau Lloegr, Asiantaeth yr Amgylchedd a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Mae cyrff cyhoeddus anadrannol ymgynghorol yn cael eu sefydlu gan weinidogion i roi cyngor iddynt a'u hadrannau ar faterion neilltuol. Mae'r rhain yn cynnwys y Pwyllgor ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus a'r Comisiwn Cyflogau Isel. Mae rhai Comisiynau Brenhinol yn cael eu hystyried yn gyrff cyhoeddus anadrannol ymgynghorol hefyd.
Ar hyn o bryd mae dros 1,000 o gyrff cyhoeddus anadrannol yn y DU. Cedwir rhestr ohonynt yn ganolog gan Swyddfa'r Cabinet ac fe'i cyhoeddir yn flynyddol yn y cyhoeddiad 'Public Bodies'. Mae cyfeiriadur ar-lein ar gael trwy wefan Swyddfa'r Cabinet.