Rôl gyfansoddiadol ac ymarferol y Gwasanaeth Sifil ym Mhrydain yw helpu Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Gweithrediaeth yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i ffurfio'u polisïau, gwneud penderfyniadau a gweinyddu'r gwasanaethau cyhoeddus y maent yn gyfrifol amdanynt. Crëwyd Gwasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon yn 1921 i wasanaethu'r weinyddiaeth leol. Ei rôl bresennol yw cefnogi Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i weinyddu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae'n gyfrifol amdanynt.
Gweision y Goron yw gweision sifil. I bob pwrpas, mae hyn yn golygu Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Gweithrediaeth yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn gyffredinol, mae pwerau gweithredol yn cael eu hymarfer gan weinidogion y Goron, sydd yn eu tro yn atebol i'r Senedd neu'r Cynulliad priodol. Nid oes gan y Gwasanaeth Sifil fel y cyfryw unrhyw bersonoliaeth neu gyfrifoldeb cyfansoddiadol ar wahân. Mae dyletswydd y gwas sifil unigol yn bennaf oll i'r gweinidog sy'n gyfrifol am yr adran y mae'n gweithio ynddi. Nid yw newid gweinidog, am ba reswm bynnag, yn golygu newid staff.
Gall pob un o weinidogion y cabinet benodi hyd at ddau ymgynghorydd arbennig. Mae'r Prif Weinidog yn cymeradwyo pob penodiad ac fe delir amdanynt o arian cyhoeddus. Mae oddeutu 80 o ymgynghorwyr o'r fath yn y weinyddiaeth bresennol. Daw eu penodiadau i ben pan ddaw tymor y Llywodraeth i ben neu pan fydd y gweinidog a'u penododd yn gadael y Llywodraeth neu'n symud i swydd arall.
Mae Cod y Gwasanaeth Sifil, a gyflwynwyd yn 1996, yn ddatganiad cryno o rôl a chyfrifoldebau gweision sifil. Fe'i diwygiwyd yn 1999 i adlewyrchu'r broses ddatganoli. Mae'r Cod yn cynnwys llwybr apelio annibynnol i Gomisiynwyr y Gwasanaeth Sifil mewn perthynas â honiadau o dorri'r Cod.
Ym Mehefin 2001, roedd rhyw 2% o'r boblogaeth weithio mewn gwaith yn weision sifil, a rhyw 10% o holl weithwyr y sector cyhoeddus.
Mae oddeutu hanner yr holl weision sifil yn darparu gwasanaethau'n uniongyrchol i'r cyhoedd. Mae'r rhain yn cynnwys talu budd-daliadau a phensiynau, rhedeg gwasanaethau cyflogaeth, staffio carchardai, rhoi trwyddedau gyrru a darparu gwasanaethau i ddiwydiant ac amaethyddiaeth. Cyflogir oddeutu un o bob pump yn y Weinyddiaeth Amddiffyn a'i hasiantaethau. Rhennir y gweddill rhwng dyletswyddau polisi a gweinyddol canolog, gwasanaethau cefnogi, a gwasanaethau sy'n cynnal eu hunain yn ariannol gan fwyaf, megis y rhai a ddarperir gan y Bathdy Brenhinol. Mae tua 80 y cant o weision sifil yn gweithio y tu allan i Lundain.
Comisiynwyr y Gwasanaeth Sifil sy'n gyfrifol am sicrhau bod y broses recriwtio i'r Gwasanaeth Sifil yn cael ei wneud ar sail teilyngdod ac yn seiliedig ar gystadleuaeth deg ac agored. Mae'r Comisiynwyr, sy'n annibynnol ar y llywodraeth, yn llunio cod recriwtio gorfodol ac yn archwilio polisïau ac arferion recriwtio adrannau ac asiantaethau i sicrhau eu bod yn cydymffurfio. Maent hefyd yn cymeradwyo penodiadau a wneir drwy'r broses recriwtio allanol i'r Uwch Wasanaeth Sifil ac yn gwrando ar apeliadau ac yn gwneud penderfyniadau ar apeliadau mewn achosion lle mae pryder am briodoldeb a chydwybod dan y Cod Gwasanaeth Sifil.
Fel y Gweinidog dros y Gwasanaeth Sifil, y Prif Weinidog sy'n gyfrifol am gydlynu a rheoli'r Gwasanaeth Sifil yn ganolog. Caiff gymorth Pennaeth y Gwasanaeth Sifil Cartref, sy'n cadeirio Bwrdd Rheoli'r Gwasanaeth Sifil. Bydd Swyddfa'r Cabinet yn goruchwylio'r fframwaith canolog ar gyfer rheoli'r Gwasanaeth Sifil. Mae cyfrifoldeb beunyddiol dros amrediad eang o delerau ac amodau wedi'i ddirprwyo i adrannau ac asiantaethau, ac i Weithrediaeth yr Alban a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.