Mae angen adolygu polisïau a phenderfyniadau cynghorau a chraffu arnynt ac, o'r herwydd, ceir trefniadau caeth ar gyfer gwneud hynny ymhob strwythur gwneud-penderfyniadau newydd.
Gwneir rhai penderfyniadau, megis derbyn polisïau a'r gyllideb, gan y cyngor llawn, ond gwneir y rhan fwyaf o benderfyniadau sy'n ymwneud â gweithredu polisïau gan y weithrediaeth.
Y weithrediaeth hefyd sy'n gyfrifol am baratoi'r polisïau a'r gyllideb i'w cyflwyno i'r cyngor. Caiff y canlynol wneud penderfyniadau:
Gall y weithrediaeth hefyd ddirprwyo'r gwaith o wneud penderfyniadau i bwyllgorau ardal a llunio trefniadau partneriaeth gydag awdurdodau eraill.
Pwrpas y trefniadau newydd yw sicrhau bod pobl yn gwybod pwy yn y cyngor sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau, sut y gallant gyfrannu at wneud penderfyniadau, a sut y gallant ddal y rhai sy'n gwneud penderfyniadau'n atebol.
Caiff y cyhoedd, gan gynnwys y wasg, fynd i gyfarfodydd y weithrediaeth pan fydd penderfyniadau allweddol yn cael eu trafod. Gallant hefyd gael gafael ar agendâu, adroddiadau a chofnodion cyfarfodydd a rhai papurau cefndir. Yn ychwanegol, rhaid i awdurdodau lleol gyhoeddi blaengynllun sy'n nodi'r penderfyniadau a fydd yn cael eu cymryd yn ystod y misoedd olynol. Dim ond mewn amgylchiadau prin y gall awdurdodau lleol atal y cyhoedd rhag mynychu cyfarfodydd a chadw papurau yn ôl.