Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Meiri

Mae gan rai ardaloedd y teitl seremonïol o fwrdeistref, neu ddinas, y ddau yn cael eu rhoi trwy awdurdod brenhinol. Yn draddodiadol, mae cynghorwyr yn dewis Maer (Profost yn yr Alban) i weithredu fel swyddog llywyddu ac i ymgymryd â dyletswyddau seremonïol. Yn Ninas Llundain, a rhai dinasoedd mawr eraill, mae'n cael ei alw wrth y teitl Arglwydd Faer. Yn yr Alban, teitl swyddog llywyddu'r pedair dinas sydd wedi'u sefydlu hiraf (Aberdeen, Dundee, Caeredin a Glasgow) yw'r Arglwydd Brofost.

Yn unol â Deddf Llywodraeth Leol 2000, rhaid i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr roi strwythurau gwneud-penderfyniadau newydd ar waith, gan gynnwys yr opsiwn o faer a etholir yn uniongyrchol.

Mae dyletswyddau meiri'n amrywio o'r seremonïol i'r gweithredol

Yn y rhan fwyaf o awdurdodau, mae'r trefniadau'n seiliedig ar un o dri fframwaith gweithredol: maer a chabinet, arweinydd cyngor a chabinet, neu faer a rheolwr cyngor. O fewn yr opsiynau hyn, mae gan awdurdodau lleol hyblygrwydd sylweddol i weithio yn unol â chyfansoddiad sy'n adlewyrchu amgylchiadau lleol. Yn ychwanegol at drefniadau gweithredol, mae gan gynghorau dosbarth sirol bychan gyda phoblogaeth o lai na 85,000 ddewis o ddiwygio'u system bwyllgor gyfredol. Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol Cymru a Lloegr wedi dewis math o weithrediaeth lle mae arweinydd y cabinet yn cael ei ddewis gan gynghorwyr eraill.

O dan ddarpariaethau yn Neddf Llywodraeth Leol 2000, rhaid i gynghorau yng Nghymru a Lloegr gynnal refferenda rhwymol os yw pobl leol wedi nodi, yn dilyn ymgynghoriad, eu bod eisiau ethol maer yn uniongyrchol dan y trefniadau gweithredol newydd a roddwyd ar waith gan y Ddeddf. Er bod gan y Llywodraeth bwerau i gyfarwyddo awdurdod lleol i gynnal refferendwm mewn rhai amgylchiadau, cyhoeddodd ym mis Mehefin 2002 na fyddai'n ymyrryd mewn achosion lle nad oedd yn cytuno â'r penderfyniad a wnaed gan gyngor ar ôl ymgynghori.

Allweddumynediad llywodraeth y DU