Mewn refferendwm a gynhaliwyd ym mis Medi 1997, roedd 74 y cant o'r rhai a bleidleisiodd o blaid cynigion Llywodraeth y DU i sefydlu Senedd i'r Alban a Gweithrediaeth i weinyddu materion yr Alban. Roedd 64 y cant o blaid ail gwestiwn a ofynnwyd, sef a ddylid rhoi pwerau amrywio trethi i'r Senedd newydd.
Cyflwynwyd deddfwriaeth yn Senedd San Steffan ym mis Rhagfyr 1997 a'r Tachwedd dilynol daeth Deddf yr Alban 1998 yn gyfraith. Cynhaliwyd etholiadau ar gyfer y Senedd gyntaf i'r Alban ers bron i 300 mlynedd ym mis Mai 1999, a chyfarfu am y tro cyntaf ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno.
Yn wahanol i Senedd San Steffan, does dim ail siambr gan Senedd yr Alban i ddiwygio deddfwriaeth a ddaw ger ei bron. Gwneir y gwaith craffu manwl ar Fesurau gan bwyllgorau neu trwy gael tystiolaeth gan arbenigwyr allanol. Bellach, nid Tŷ'r Arglwyddi sy'n ystyried deddfwriaeth a wneir gan Senedd yr Alban ar faterion datganoledig, er mai'r Tŷ yw'r llys apêl terfynol o hyd ar gyfer gwrando achosion sifil sy'n deillio o lysoedd yr Alban.
Etholir y 129 o aelodau Senedd yr Alban (ASA) am dymor penodol o bedair blynedd. Mae'r System Aelodau Ychwanegol o gynrychiolaeth gyfrannol yn cael ei defnyddio yn etholiadau Senedd yr Alban, sy'n rhoi dwy bleidlais i bob etholwr: un ar gyfer ASA etholaethol ac un bleidlais 'ranbarthol' ar gyfer plaid wleidyddol gofrestredig neu ymgeisydd unigol annibynnol.
Ceir 73 o seddi etholaethol ar gyfer aelodau unigol a 56 sedd yn cynrychioli wyth rhanbarth (yn seiliedig ar yr etholaethau seneddol Ewropeaidd), gyda phob rhanbarth yn dychwelyd saith aelod. Dyrennir yr ASAau hyn fel bo'r gyfran gyffredinol o seddi sydd gan bob plaid yn y Senedd yn adlewyrchu ei chyfran o'r bleidlais ranbarthol.
Ym mis Mehefin 2003, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai rôl Ysgrifennydd Gwladol yr Alban, ar gyfer cynrychioli buddiannau'r Alban yng Nghabinet y DU, yn cael ei chyfuno gyda swyddi eraill o fewn y Cabinet. Hefyd, symudodd Swyddfa'r Alban, ynghyd â Swyddfa Cymru, i fod yn rhan o'r Adran Materion Cyfansoddiadol (Y Weinyddiaeth Gyfiawnder erbyn hyn). Ar lefel y Cabinet, mae'r cyfrifoldeb dros gynnal busnes sy'n ymwneud â'r Alban, a phrif gyfrifoldeb dros gynrychioli'r Alban o fewn y Llywodraeth a'r Senedd, ar ysgwyddau uwch weinidog, gyda chefnogaeth y staff sydd wedi'u lleoli yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder.
Gweithrediaeth yr Alban, adain weinyddol llywodraeth yr Alban, sy'n gyfrifol am yr holl gyrff cyhoeddus y mae eu swyddogaethau a'u gwasanaethau wedi'u datganoli iddi, ac mae'n atebol i Senedd yr Alban amdanynt.
Prif Weinidog yr Alban, fel arfer arweinydd y blaid gyda'r gefnogaeth fwyaf yn y Senedd, yw pennaeth Gweithrediaeth yr Alban. Ers yr etholiadau cyntaf, mae'r Weithrediaeth wedi cael ei rhedeg gan bartneriaeth rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol, gyda'r olaf â dwy sedd yng Nghabinet Senedd yr Alban, gan gynnwys sedd y Dirprwy Brif Weinidog. Ceir 11 swydd yn y Cabinet i gyd ynghyd â'r Arglwydd Adfocad nad yw'n swydd etholedig, sef y prif swyddog cyfraith.