Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Senedd Ewrop

Mae Senedd Ewrop, gyda 732 o aelodau etholedig (ASEau), gan gynnwys 78 o'r DU, yn chwarae rhan fwyfwy pwysig yn y broses ddeddfwriaethol.

Ymgynghorir â'r Senedd ar benderfyniadau pwysig ac mae ganddi gryn bŵer, ar y cyd â Chyngor yr Undeb Ewropeaidd, dros gyllideb y Gymuned Ewropeaidd. Mewn meysydd deddfwriaeth mae ei rôl yn amrywio rhwng:

  • ymgynghori, lle gall ddylanwadu ar gynnwys deddfwriaeth ond heb lais terfynol gyda golwg ar y cynnwys hwnnw
  • cydweithredu a gweithdrefnau cydsynio, lle mae'i dylanwad yn fwy
  • cydbenderfynu, a gyflwynwyd gan Gytuniad Maastricht a'i ymestyn yng Nghytuniad Amsterdam, lle mae cynnig angen cytundeb y Cyngor a Senedd Ewrop

Mae'r Senedd lawn yn cyfarfod yn Strasbourg am ryw wythnos ymhob mis, er bod gwaith y pwyllgorau'n digwydd ym Mrwsel fel arfer.

Cynhelir etholiadau Senedd Ewrop bob pum mlynedd, y diweddaraf ym mis Mehefin 2004. Yn y DU, cynhaliwyd y rhain yn ôl y drefn cynrychiolaeth gyfrannol, fel sy'n digwydd yn yr Aelod-wladwriaethau eraill.

Cyhoeddir rhywfaint o ddeddfwriaeth y Gymuned Ewropeaidd ar y cyd gan Gyngor yr Undeb Ewropeaidd a Senedd Ewrop, rhywfaint gan y Cyngor a rhywfaint gan y Comisiwn dan bwerau dirprwyedig. Mae'n cynnwys Rheoliadau, Cyfarwyddebau a Phenderfyniadau:

  • Mae'r Rheoliadau'n uniongyrchol berthnasol i bob Aelod-wladwriaeth ac mae iddynt rym cyfraith heb yr angen am weithredu rhagor o fesurau
  • Rhaid i'r aelod-wladwriaethau gydymffurfio â'r Cyfarwyddebau hefyd o ran y canlyniad i'w gyflawni, ond gall pob Aelod-wladwriaeth ddewis y ffurf a'r dull o'u gweithredu
  • Fel gyda'r Rheoliadau, does dim angen deddfwriaeth genedlaethol i weithredu'r Penderfyniadau fel arfer. Maent yn rhwymo'r rhai y maent yn cyfeirio atynt

Mae pob Aelod-Wladwriaeth yn darparu un o'r barnwyr i wasanaethu yn Llys Cyfiawnder Ewrop, yr awdurdod terfynol ar bob agwedd ar Gyfraith Gymunedol. Rhaid i'r Aelod-wladwriaethau gydymffurfio â'i benderfyniadau a gellir gosod dirwyon ar y rhai na fyddant yn gwneud hynny. Cynorthwyir y Llys gan Lys y Gwrandawiad Cyntaf, sy'n delio gyda rhai achosion sy'n cael eu dwyn gan unigolion a chwmnïau. Cynrychiolir y DU ar Lys yr Archwilwyr, sy'n ymchwilio i wariant a refeniw'r Gymuned, i sicrhau ei fod yn cael ei dderbyn a'i wario'n gyfreithlon.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU