Ffurfiwyd y Cenhedloedd Unedig yn 1945 ar ôl diwedd yr Ail Ryfel Byd. Llofnododd y DU a 50 o wledydd eraill Siarter y Cenhedloedd Unedig - ymrwymiad i gadw heddwch drwy gydweithredu rhyngwladol. Heddiw, mae bron pob gwlad yn y byd yn perthyn i'r Cenhedloedd Unedig, gyda chyfanswm o 191 o wledydd yn aelodau.
Y Cyngor Diogelwch
Rhan fwyaf pwerus y Cenhedloedd Unedig yw'r Cyngor Diogelwch, ac mae'n gyfrifol am gadw heddwch a diogelwch rhyngwladol. Gall y Cyngor gyfarfod unrhyw bryd, pa bryd bynnag y bydd bygythiad i heddwch.
Mae 15 aelod ar y Cyngor. Mae pump o'r rhain - y DU, Tsieina, Ffrainc, Rwsia ac Unol Daleithiau America - yn aelodau parhaol. Etholir y 10 arall gan y Cynulliad Cyffredinol am gyfnodau o ddwy flynedd. Bydd unrhyw benderfyniad a wneir gan y Cyngor yn gorfod cael naw pleidlais o blaid o blith y 15. Nid oes modd pasio penderfyniad os ceir pleidlais yn erbyn neu feto gan un o'r pum aelod parhaol - megis y DU.
Pan fydd y Cyngor yn credu bod bygythiad i heddwch rhyngwladol, y cam cyntaf fydd ceisio ffyrdd o ddatrys yr anghydfod mewn modd heddychlon. Mae'n bosib y bydd yn awgrymu setliad, neu'n ceisio cyfryngu rhwng y gwledydd dan sylw. Os bydd ymladd, bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau cadoediad. Mae'n bosib y bydd hefyd yn anfon cenhadaeth cadw'r heddwch i help i gynnal y cadoediad a chadw lluoedd gwrthwynebus ar wahân.
Gall y Cenhedloedd Unedig gymryd camau hefyd i orfodi ei benderfyniadau. Gall orfodi sancsiynau economaidd neu orchymyn gwahardd gwerthu arfau i wledydd penodol. Ar adegau prin, mae'r Cyngor wedi awdurdodi Aelod Wladwriaethau i ddefnyddio "pob dull angenrheidiol,"
gan gynnwys camau milwrol, i sicrhau bod penderfyniadau'n cael eu gwireddu.
Y Cynulliad Cyffredinol
Mae gan bob un o wledydd y Cenhedloedd Unedig gynrychiolydd yn y Cynulliad Cyffredinol - "senedd y cenhedloedd"
sy'n cyfarfod i ystyried problemau mwyaf dyrys y byd. Bydd gan bob gwladwriaeth sy'n aelod un bleidlais. Y math o faterion a drafodir er enghraifft fydd globaleiddio, AIDS, gwrthdaro yn Affrica a sut mae helpu gwladwriaethau democrataidd newydd. Bydd penderfyniadau ynghylch meysydd allweddol megis heddwch a diogelwch, derbyn aelodau newydd a chyllideb y Cenhedloedd Unedig yn gorfod cael mwyafrif o ddau draean, tra mai dim ond mwyafrif syml y bydd ei angen ar gyfer materion eraill.