Cymdeithas wirfoddol o wladwriaethau annibynnol yw'r Gymanwlad, y cyfan bron ohonynt wedi bod yn diriogaethau Prydeinig ar un adeg. Mae ganddi 54 o aelodau.
Mae'r sefydliad yn hyrwyddo democratiaeth, rheolaeth y gyfraith, llywodraethu da a hawliau dynol, yn ogystal â datblygu economaidd a chymdeithasol. Mae'n cynnwys bron i draean o wledydd y byd, ac mae'n cynrychioli cyfanswm poblogaeth o 1.7 biliwn o bobl.
Y Frenhines sy'n ben ar y Gymanwlad ac mae hefyd yn ben ar Wladwriaeth y DU a 15 o aelod wledydd eraill. Ysgrifenyddiaeth y Gymanwlad, yn Llundain, yw prif asiantaeth rynglywodraethol y Gymanwlad. Mae'n helpu llywodraethau i drefnu Cyfarfodydd Penaethiaid Llywodraethau'r Gymanwlad yn eu gwledydd, sy'n cael eu cynnal bob dwy flynedd.
Mae hefyd yn helpu i drefnu cyfarfodydd gweinidogion a chynadleddau eraill. Mae'n gweinyddu'r rhaglenni cymorth y cytunir arnynt yn y cyfarfodydd hyn, gan gynnwys rhaglenni Cronfa'r Gymanwlad ar gyfer Cydweithredu Technegol, sy'n darparu arbenigedd, gwasanaethau cynghori a hyfforddiant i wledydd y Gymanwlad sy'n datblygu.