Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydlynu yn Ewrop (OSCE)
Y Sefydliad ar gyfer Diogelwch a Chydlynu yn Ewrop (OSCE) yw'r sefydliad diogelwch rhanbarthol mwyaf yn y byd.
Sicrhau heddwch, democratiaeth, diogelwch, hawliau dynol a'r gyfraith
Mae'r 55 gwladwriaeth sy'n rhan yn cynnwys y cyfan o Ewrop, Rwsia, y Cawcasws, Canol Asia, UDA a Chanada. Lleolir yr OSCE yn Fiena, lle mae gan y DU ddirprwyaeth barhaol. Dyma'i brif feysydd gwaith:
- rhoi rhybuddion cynnar am wrthdaro posibl a cheisio atal hynny trwy deithiau ymweld yn y maes a diplomyddiaeth a gwaith Uwch Gomisiynydd yr OSCE ar Leiafrifoedd Cenedlaethol
- cadw golwg ar etholiadau a darparu cyngor ar hawliau dynol, democratiaeth a chyfraith, a'r cyfryngau
- ailsefydlu ar ôl gwrthdaro, gan gynnwys datblygu cymdeithas sifil
- hyrwyddo gwarchodaeth trwy reoli arfau ac adeiladu hyder milwrol