Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyfiawnder troseddol

Os yw'r heddlu'n cyhuddo rhywun o drosedd yng Nghymru neu yn Lloegr, efallai y bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn penderfynu erlyn.

Y broses erlyn

Mae nifer o asiantaethau ac adrannau'n ffurfio'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr. Gyda'i gilydd maent yn gyfrifol am gadw cyfraith a threfn ac am weinyddu cyfiawnder.

Os yw'r heddlu'n cyhuddo rhywun o drosedd, efallai y bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) yn penderfynu erlyn. Mewn achosion gyda rheithgor, y barnwr sy’n penderfynu ar gwestiynau cyfreithiol, yn crynhoi’r achos ac yn rhyddhau neu’n dedfrydu’r unigolyn a gyhuddir. Efallai y bydd y CPS yn parhau â'r erlyniad os credant fod digon o dystiolaeth i olygu bod siawns realistig o gael cyhuddiad yn erbyn pob diffynnydd ar bob cyhuddiad. Maent hefyd yn ystyried a yw parhau â'r erlyniad er budd y cyhoedd.

Troseddau diannod yw'r rhai lleiaf difrifol a dim ond mewn llysoedd ynadon y gellir eu profi. Ceir hefyd droseddau 'ditiadwy yn unig', megis llofruddiaeth, dynladdiad a lladrad, ac mae'n rhaid i'r rhain gael eu profi gan farnwr a rheithgor yn Llys y Goron ar dditiad. Ymdrinnir â throseddau 'y gellir eu treialu naill ffordd' yn yr un modd â throseddau diannod oni bai fod yr ynadon yn penderfynu bod yr achos yn fwy addas i Lys y Goron, neu fod y diffynnydd yn dewis cael treial yn Llys y Goron.

Treialon

Mae'r gyfraith yn tybio bod unigolyn a gyhuddir o drosedd yn ddieuog nes y'i profir yn euog y tu hwnt i amheuaeth resymol gan yr erlyniad. Os yw’r diffynnydd yn pledio’n euog, bydd y barnwr yn penderfynu ar ddedfryd briodol. Fel arfer, mewn llys agored y cynhelir treialon troseddol. Mae hyn yn golygu bod gan aelodau o'r wasg a'r cyhoedd hawl i glywed y trafodion. Os bydd diffynnydd yn pledio'n 'ddieuog', bydd yr erlyniad a'r amddiffyniad yn ffurfio dwy garfan sy'n gwrthwynebu ei gilydd. Byddant yn galw ar dystion ac yn eu holi, ac yn cyflwyno fersiynau gwahanol i'r achos - rhaid dilyn rheolau caeth wrth wneud hyn.

Y rheithgor

Dewisir rheithwyr ar hap o'r Gofrestr Etholiadol a byddant yn mynd i'r llys am bythefnos neu dros gyfnod y treial y dewiswyd hwy i'w fynychu. Y barnwr sy’n penderfynu ar gwestiynau cyfreithiol, yn crynhoi’r achos ar gyfer y rheithgor, ac yn rhyddhau neu’n dedfrydu’r unigolyn a gyhuddir. Mae'r rheithgor yn annibynnol ar y farnwriaeth ac yn gyfrifol am benderfynu ar gwestiynau ffeithiol. Gall y rheithfarn fod yn 'euog' neu'n 'ddieuog'.

I gael mwy o wybodaeth am wasanaeth rheithgor a swyddogaeth rheithiwr, dilynwch y ddolen isod.

Cyfiawnder troseddol yn yr Alban

Gwasanaeth Cyllid yr Erlynydd a Swyddfa'r Goron sy'n darparu gwasanaeth erlyn cyhoeddus annibynnol yn yr Alban. Un o adrannau Gweithrediaeth yr Alban ydyw, a dyma'r unig awdurdod erlyn cyhoeddus yn yr Alban.

Ceir dau fath o drefniadaeth droseddol yn yr Alban: difrifol a diannod. Mae'r achosion mwyaf difrifol yn dod dan y drefniadaeth ddifrifol, ac yn cynnwys treial ar dditiad gerbron barnwr neu siryf sy'n eistedd gyda rheithgor. Yn yr Alban, mae 15 o bobl ar reithgor a dim ond mwyafrif syml (8-7) y mae ei angen i bennu a yw rhywun yn euog ynteu'n ddieuog. Gellir cael tair rheithfarn: 'euog', 'dieuog', neu 'heb brofi'. Mae rheithfarn 'heb brofi' yr un fath â dieuog, oherwydd caiff y diffynnydd ei ryddhau. Mae'r drefniadaeth ddiannod yn ymdrin â throseddau nad ydynt mor ddifrifol, ac mae'n cynnwys siryf yn eistedd ar ei ben ei hun, neu ynad, a all eistedd ar ei ben ei hun neu ar fainc o dri.

I gael mwy o wybodaeth am system cyfiawnder a llysoedd yr Alban, dilynwch y ddolen isod.

Cyfiawnder troseddol yng Ngogledd Iwerddon

Swyddfa Gogledd Iwerddon, dan yr Ysgrifennydd Gwladol, sy'n delio â pholisi a deddfwriaeth sy'n ymwneud â chyfraith droseddol, yr heddlu a'r system gosbi yng Ngogledd Iwerddon.

Y Gwasanaeth Erlyn Cyhoeddus sy'n gyfrifol am ystyried a, phan fydd hynny'n briodol, ymgymryd â phob achos troseddol yng Ngogledd Iwerddon,

I gael mwy o wybodaeth am gyfiawnder troseddol yng Ngogledd Iwerddon, dilynwch y ddolen isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU