Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dedfrydu ac apeliadau

Mae'r gyfraith yn tybio bod unigolyn a gyhuddir o drosedd yn ddieuog nes y'i profir yn euog y tu hwnt i amheuaeth resymol gan yr erlyniad. Os yw’r diffynnydd yn pledio’n euog, bydd y barnwr ond yn penderfynu ar y ddedfryd briodol.

Dedfrydu

Bydd y llys yn dedfrydu'r troseddwr ar ôl ystyried yr holl wybodaeth berthnasol. Gall hyn gynnwys adroddiadau cyn-dedfrydu ac adroddiadau arbenigol eraill neu 'ble liniarol' gan yr amddiffyniad. Mae amrediad o ddedfrydau ar gael, a bydd y ddedfryd yn dibynnu ar y math o lys ac ar ddifrifoldeb y trosedd. Mae dedfrydau'n cynnwys y canlynol:

  • rhyddhau - a all fod yn 'absoliwt' heb unrhyw amodau, neu'n 'amodol' (ar beidio â chyflawni trosedd arall)
  • ariannol - er enghraifft, dirwyon, gorchmynion iawndal a gorchmynion atafaelu
  • carchar - dedfryd o garchar
  • dedfryd gymunedol - a elwir hefyd yn 'orchymyn cosb gymunedol', ac a arferai gael ei alw'n 'wasanaeth cymunedol'

Dedfrydau cymunedol

Mae dedfrydau cymunedol yn golygu ei bod yn rhaid i'r troseddwr wneud rhywfaint o waith di-dâl er budd y gymuned. Os yw'r troseddwyr yn gyflogedig, disgwylir iddynt wneud y gwaith yn eu hamser eu hunain. Os ydynt dan 'orchymyn ailsefydlu cymunedol' (a arferai gael ei alw'n 'orchymyn prawf'), byddant dan oruchwyliaeth swyddog prawf.

Ceir mwy o wybodaeth am ddedfrydu cymunedol a'r gwasanaeth prawf yn adran Troseddu, cyfiawnder a'r gyfraith Directgov - dilynwch y ddolen isod.

Dedfrydau o Garchar

Carcharu yw'r gosb galetaf sydd ar gael i'r llysoedd - yn gyffredinol, dim ond ar gyfer y troseddau mwyaf difrifol y gellir rhoi'r ddedfryd hon. Yn ogystal â hyn, mae gan bob trosedd gyfnod hwyaf yn y carchar, sydd fel arfer yn cael ei bennu gan Ddeddf Seneddol. Ceir dedfrydau byrraf gorfodol ar gyfer troseddwyr mynych (sy'n golygu na ellir eu dedfrydu i garchar am gyfnod llai na chyfnod penodol. Fel arfer, mae unrhyw amser y mae troseddwr wedi'i dreulio yn y ddalfa cyn eu treial yn cyfrif fel rhan o'u dedfryd.

Gorchmynion Canolfan Ymbresenoli

Gellir rhoi Gorchmynion Canolfan Ymbresenoli i ddynion a merched rhwng 10 a 25 sy'n troseddu yn lle rhoi dedfryd gymunedol neu gadwraeth arall iddynt. Nod y canolfannau yw lleihau troseddu mewn troseddwyr risg isel drwy ddelio â phroblemau pan fyddant yn dechrau. Bydd troseddwyr fel arfer yn cymryd rhan mewn ymarferion grŵp er mwyn archwilio i'r rhesymau pam eu bod yn troseddu ac er mwyn atal troseddu. Cynigir iddynt hefyd helpu i ddatblygu sgiliau a hyder, a chânt eu hannog i fod yn bendant, yn hytrach nag yn ymosodol, ac uniaethu'n gadarnhaol â phobl eraill. I gael rhagor o wybodaeth am drin troseddwyr ifanc, dilynwch y ddolen isod i'r wybodaeth am 'Droseddwyr Ifanc' yn yr adran hon.

Apeliadau

Gall unrhyw berson a ddyfernir yn euog gan lys ynadon apelio i Lys y Goron yn erbyn eu dyfarniad , ac/neu yn erbyn y ddedfryd a orfodwyd, neu ar bwynt cyfreithiol i'r Uchel Lys. Mae apeliadau o Lys y Goron yn mynd i'r Llys Apêl (Adran Droseddol).

Gellir gwneud apêl bellach i Dŷ'r Arglwyddi os rhoddir caniatâd.

Mae'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol - sy'n annibynnol ar y llywodraeth a'r llysoedd - yn adolygu achosion honedig o gamweinyddu cyfiawnder sydd wedi bod drwy'r broses apelio. Gall gyfeirio achos yn ôl at y Llys Apêl os yw'n bosib na fyddai euogfarn na dedfryd yn cael eu cynnal. Mae'n rhaid bod rhyw ddadl neu dystiolaeth newydd wedi dod i'r amlwg (na chodwyd yn y treial nac yn yr apêl), er mwyn gallu cyfeirio achos at y Comisiwn.

Dedfrydu ac apeliadau yn yr Alban

Mae rhai gwahaniaethau yn y ffordd y mae'r Alban yn delio â dedfrydu ac apeliadau.

Dedfrydau digarchar

Mae dedfrydau digarchar yn yr Alban yn cynnwys dirwyon, gorchmynion gwasanaeth cymunedol, gorchmynion prawf, gorchmynion cyfyngu ar ryddid, a gorchmynion trin a phrofi am gyffuriau.

Dedfrydau o Garchar

Yn yr Alban, rhaid i lys gael adroddiad ymchwiliad cymdeithasol cyn gosod dedfryd o garchar os yw'r troseddwr o dan 21 oed, neu heb dreulio cyfnod dan glo o'r blaen fel rhan o ddedfryd.

Apeliadau

Gall person a ddyfarnwyd yn euog apelio yn erbyn eu dyfarniad, neu'u dedfryd, neu'r ddau, i Lys Apêl Troseddol yr Alban. Ni ellir gwneud apêl bellach o'r llys hwn i Dŷ'r Arglwyddi. Mae Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yr Alban yn ystyried unrhyw gamweinyddu cyfiawnder honedig ac yn cyfeirio achosion sy'n bodloni'r meini prawf perthnasol i'r Llys Apêl i'w hadolygu.

I gael mwy o wybodaeth am ddedfrydu ac apeliadau sifil yn yr Alban, dilynwch y ddolen isod.

Dedfrydu ac apeliadau yng Ngogledd Iwerddon

Mae system gyfreithiol Gogledd Iwerddon yn weddol debyg i system Cymru a Lloegr. Mae gwefan System Cyfiawnder Troseddol Gogledd Iwerddon yn rhoi gwybodaeth ynghylch sut mae troseddwyr yn cael eu dedfrydu a sut mae'r system apeliadau'n gweithio. Defnyddiwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU