Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Yr heddlu ac asiantaethau cyfiawnder troseddol eraill

Mae nifer o sefydliadau'n rhannu'r cyfrifoldeb o atal a mynd at wraidd troseddau, delio â throseddwyr, a goruchwylio gwaith carchardai.

Gwasanaeth yr heddlu

Ceir 43 o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Maent yn cael eu cynnal gan awdurdodau heddlu lleol, y mae eu hamcanion yn cael eu pennu trwy ymgynghori gyda'r prif gwnstabliaid a'r gymuned leol, tra bod y llywodraeth yn pennu blaenoriaethau ar gyfer yr heddlu yn ei gyfanrwydd.

Yn ben ar bob heddlu y mae Prif Gwnstabl (yn Llundain, Comisiynydd Heddlu Dinas Llundain, a Chomisiynydd yr Heddlu Metropolitan) a benodir gan yr awdurdod heddlu perthnasol, gyda chymeradwyaeth y llywodraeth. Mae arolygwyr heddlu annibynnol yn adrodd ar effeithiolrwydd ac effeithlonrwydd heddluoedd.

Mae gan yr Alban wyth o heddluoedd 'tiriogaethol' ac mae Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn weithredol yno. Awdurdodau'r heddlu neu fyrddau ar y cyd, prif gwnstabliaid a gweinidogion yr Alban sy'n rhannu'r cyfrifoldeb cyfreithiol dros blismona.

Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PSNI) sy'n plismona Gogledd Iwerddon. Disodlodd y gwasanaeth hwn Gwnstabliaeth Frenhinol Ulster yn 2001, yn dilyn argymhellion y Comisiwn Annibynnol ar Blismona.

I gael mwy o wybodaeth am waith yr heddlu yn y DU, dilynwch y dolenni isod.

Cyrff troseddau cenedlaethol

Mae nifer o asiantaethau sy'n gweithio ar draws ffiniau cenedlaethol yn y DU:

Yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (SOCA)

Ffurfiwyd SOCA wrth gyfuno'r Sgwad Troseddau Uniongyrchol (NCS), y Gwasanaeth Cenedlaethol Cudd-wybodaeth Droseddol (NCIS), y rhan o Gyllid a Thollau EM sy'n delio â masnachu cyffuriau a chyllid troseddol sy'n gysylltiedig â hynny, a rhan o UK Immigration sy'n delio â throseddau cyfundrefnol sy'n ymwneud â mewnfudo (UKIS).

Mae'n asiantaeth gudd-wybodaeth ac mae ganddi bwerau i orfodi'r gyfraith yn sgil ei chyfrifoldeb i leihau'r niwed y mae troseddau cyfundrefnol difrifol yn ei chael ar bobl a chymunedau.

Y Gwasanaeth Gwyddoniaeth Fforensig

Mae'r gwasanaeth yn rhoi cymorth gwyddonol i heddluoedd a hefyd yn gyfrifol am y gronfa ddata DNA genedlaethol yng Nghymru a Lloegr, sy'n cael ei defnyddio i gyfateb proffiliau DNA a gymerir gan bobl a amheuir o droseddau gyda samplau a adewir yn y man lle digwyddodd y trosedd. Gellir cymryd sampl DNA gan unrhyw un sy'n cael ei arestio yng nghyswllt 'trosedd cofnodadwy' ac sy'n cael ei gadw mewn gorsaf heddlu. Mae troseddau cofnodadwy yn cynnwys bob trosedd heblaw am y rhai mwyaf pitw.

Y Swyddfa Twyll Difrifol (SFO)

Mae'r Swyddfa Twyll Difrifol yn ymchwilio i achosion o dwyll difrifol a chymhleth yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ac yn erlyn achosion o'r fath, gan gyflogi tîm o gyfreithwyr, cyfrifwyr, yr heddlu a swyddogion arbenigol arall i weithio gyda'i gilydd.

I gael mwy o wybodaeth am waith yr asiantaethau hyn, dilynwch y dolenni isod.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU