Yng Nghymru a Lloegr, gweinyddir cyfiawnder sifil gan y llysoedd sirol a'r Uchel Lys yn bennaf, a'r olaf yn trafod yr achosion mwy sylweddol a chymhleth.
Mae'r llysoedd sirol hefyd yn delio gydag achosion teulu megis ysgariad, trais yn y cartref a materion sy'n effeithio ar blant.
Nid yw'r rhan fwyaf o anghydfodau sifil yn cyrraedd y llysoedd o gwbl, ac nid yw'r rhan fwyaf o'r rhai sydd yn gwneud hynny yn arwain at achos. Ymdrinnir â llawer ohonynt trwy gyfryngau cwyno statudol neu wirfoddol, neu trwy gyfryngu a negodi. Mae cyflafareddu (arbitration) yn gyffredin mewn anghydfodau adeiladu a masnachol. Mae gan Ombwdsmyn buer i benderfynu ar gwynion yn y sector cyhoeddus ac, ar sail wirfoddol, mewn rhai gweithgareddau yn y sector preifat (er enghraifft, bancio, yswiriant a phensiynau).
Mae nifer fawr o dribiwnlysoedd ar gael i benderfynu ar anghydfodau. Mae'r rhan fwyaf yn delio gydag achosion sy'n ymwneud â hawliau dinasyddion preifat yn erbyn penderfyniadau'r Wladwriaeth mewn meysydd megis nawdd cymdeithasol, treth incwm, iechyd meddwl a chyflogaeth. Ceir rhyw 80 o dribiwnlysoedd yng Nghymru a Lloegr, sy'n delio gyda rhagor na miliwn o achosion y flwyddyn.
Gall achos llwyddiannus yn y llysoedd sifil arwain at ddyfarnu iawndal i'r person sy'n gwneud yr hawliad, gyda'r swm a ddyfernir yn amrywio yn ôl yr amgylchiadau.