Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol a'r Arglwydd Ganghellor sy'n gyfrifol am weinyddu'r llysoedd, tra bo Swyddfa Gogledd Iwerddon, dan yr Ysgrifennydd Gwladol, yn delio gyda pholisïau a deddfwriaeth sy'n gysylltiedig â chyfraith droseddol, yr heddlu a'r system gosbi.
Gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Faterion Cyfansoddiadol a'r Arglwydd Ganghellor y mae'r cyfrifoldeb cyffredinol dros gyngor a chymorth cyfreithiol.
Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus Gogledd Iwerddon, sy'n atebol i'r Twrnai Cyffredinol, sy'n erlyn pob achos a roddir ar brawf drwy dditiad, a gall wneud mewn achosion (ynadol) eraill. Mae'r rhan fwyaf o droseddau ynadol yn cael eu herlyn gan yr heddlu.
Gweinyddir cymorth cyfreithiol sifil gan Gymdeithas y Gyfraith yng Ngogledd Iwerddon. Os rhoddir cymorth cyfreithiol ar gyfer achosion troseddol, mae'n cael ei roi am ddim.