Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 23 Mai 2012

Safonau mewn bywyd cyhoeddus

Mae nifer o ragofalon ar waith i sicrhau didwylledd unigolion wrth iddynt ymgymryd â'u dyletswyddau cyhoeddus.

Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus

Sefydlwyd y Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus yn 1994 ac mae'n monitro safonau moesegol mewn bywyd cyhoeddus ac yn ymateb i faterion sy'n peri pryder wrth iddynt godi. Yn ogystal â'i ymholiadau ffurfiol, ei adroddiadau blynyddol a'i waith ymchwil i agweddau cyhoeddus, mae'r Pwyllgor yn rhoi amser drwy gydol y flwyddyn i drafod materion a phryderon cyfoes sy'n ymwneud â safonau mewn bywyd cyhoeddus.

Nid yw'r Pwyllgor yn ymchwilio i honiadau unigol o gamymddwyn. Fodd bynnag, mae'n croesawu barn pobl am feysydd posib i ymchwilio iddynt. Dilynwch y ddolen isod i gael manylion cyswllt y Pwyllgor.

Rhagofalon eraill

Mae'n rhaid i bawb sy’n dal swydd gyhoeddus ymddwyn yn unol â'r safonau uchaf un

Gall y Comisiynydd Seneddol dros Safonau, sy'n annibynnol ar y llywodraeth, gynghori ASau ar faterion safonau, a chynnal ymchwiliadau dechreuol i gwynion am Aelodau'n torri'r rheolau. Mae'r Comisiynydd yn adrodd i Bwyllgor Dethol Tŷ'r Cyffredin ar Safonau a Breintiau.

Mae gan Dŷ'r Cyffredin gofrestr gyhoeddus o fuddiannau ariannol - a rhai buddiannau anariannol - ASau. Rhaid i aelodau gyda buddiant ariannol ddatgan hynny wrth siarad yn y Tŷ neu mewn Pwyllgor a rhaid ei nodi wrth gyflwyno hysbysiad o gwestiwn neu gynnig. Rhaid iddynt hefyd ddatgelu unrhyw fuddiant ariannol perthnasol mewn trafodion eraill yn y Tŷ ac wrth ymwneud â gweision sifil, gweinidogion ac Aelodau eraill. Mae gan Dŷ'r Arglwyddi gofrestr ei hun sy'n debyg i'r un ar gyfer ASau.

Mae'r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae'n gyfrifol am fonitro, rheoleiddio ac archwilio penodiadau gweinidogol i nifer o gyrff cyhoeddus.

Dyma ragofalon a mesurau eraill a gyflwynwyd tua'r un adeg â'r Pwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus:

  • newidiadau yn y fframwaith moesegol ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys sefydlu Bwrdd Safonau newydd ar gyfer Lloegr yn 2001
  • trefn reoleiddio ar gyfer cyllid pleidiau gwleidyddol yn y DU, a oruchwylir gan Gomisiwn Etholiadol annibynnol
  • rheolau sy'n rheoli ymddygiad a disgyblaeth ASau ac arweiniad cryfach ar lobïo
  • cyflwyno Codau Ymddygiad ar gyfer gweinidogion y llywodraeth a chynghorwyr arbennig
  • y rheidrwydd ar i arglwyddi gofrestru'u holl fuddiannau ariannol perthnasol a chod ymddygiad byr ar gyfer aelodau Tŷ'r Arglwyddi

Yn yr adran hon...

A oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?

Pa mor ddefnyddiol oedd yr wybodaeth hon?

Terfyn o 500 nod
Eich preifatrwydd Opens new window

Pam rydyn ni'n gofyn am yr wybodaeth hon?

  • Hoffem gael eich barn ynghylch safon a defnyddioldeb ein tudalennau
  • Bydd eich sylwadau yn ein helpu i wella ein tudalennau
  • Byddant hefyd yn helpu gyda datblygiad Directgov yn y dyfodol
  • Bydd dweud eich barn yn helpu i sicrhau ein bod ni'n rhoi'r gwasanaeth gorau oll i chi

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU