Mae arweinwyr y Llywodraeth a'r Wrthblaid yn eistedd gyferbyn â'i gilydd ar y meinciau blaen yn siambr drafod Tŷ'r Cyffredin. Mae'u cefnogwyr, sef y 'meincwyr cefn', yn eistedd y tu ôl iddynt. Ceir trefniadau eistedd tebyg ar gyfer y pleidiau yn Nhŷ'r Arglwyddi ond mae'r arglwyddi nad ydynt yn dymuno bod yn gysylltiedig ag unrhyw blaid wleidyddol yn dewis eistedd ar y 'croesfeinciau'.
Mae effeithiolrwydd y system bleidiol yn y Senedd yn dibynnu i raddau helaeth ar y berthynas rhwng y Llywodraeth a'r Gwrthbleidiau. Yn dibynnu ar gryfderau cymharol y pleidiau yn Nhw'r Cyffredin, gall yr Wrthblaid geisio goresgyn y Llywodraeth drwy ei threchu mewn pleidlais 'mater o hyder'.
Ond, yn gyffredinol, ceisia'r Wrthblaid gyfrannu at lunio polisïau a deddfwriaeth trwy feirniadaeth adeiladol, trwy wrthwynebu cynigion y llywodraeth y mae'n anghytuno â hwynt, trwy gyflwyno gwelliannau i Fesurau'r Llywodraeth, a thrwy gyflwyno'i pholisïau'i hun er mwyn gwella'i siawns o ennill yr Etholiad Cyffredinol nesaf.
Prif Chwipiaid y Llywodraeth yn Nhw'r Cyffredin a Thw'r Arglwyddi, mewn ymgynghoriad â chwipiaid yr Wrthblaid, sy'n trefnu amserlen fusnes y llywodraeth. Gyda'i gilydd, gelwir y Prif Chwipiaid yn 'sianelau arferol' pan fydd y cwestiwn o ddod o hyd i amser ar gyfer eitem fusnes neilltuol yn cael ei drafod.
Y Prif Chwipiaid a'u cynorthwywyr, a ddewisir fel arfer gan arweinwyr y pleidiau, sy'n rheoli'u pleidiau seneddol. Mae'u dyletswyddau'n cynnwys rhoi gwybod i'r aelodau am y busnes seneddol sydd i ddod, cynnal cryfder pleidleisio'r blaid drwy sicrhau bod yr aelodau'n mynychu dadleuon pwysig, a rhoi gwybod i arweinwyr y pleidiau beth yw barn aelodau'r meinciau cefn.
Trwy ddeddfwriaeth a basiwyd yn 2000, daeth cyllid y pleidiau'n fwy agored. Mae'n nodi: