Fel arfer, nid yw yfed yn gymedrol yn achosi unrhyw broblemau, ond mae yfed gormod yn gallu bod yn niweidiol. Mae'r Adran Iechyd yn awgrymu na ddylai dynion yfed mwy na thair neu bedair uned o alcohol y dydd, ac na ddylai merched yfed mwy na dwy neu dair uned o alcohol y dydd.
Mae un uned o alcohol gyfwerth â 10ml o alcohol pur. I roi syniad bras:
Mae lager neu seidr mewn potel fel arfer yn gryfach na diodydd drwy bwmp. Gallwch weld yn union sawl uned o alcohol sydd mewn potel drwy ddarllen y label.
Ar gyfartaledd, gall y corff gael gwared ar alcohol ar gyfradd o un uned yr awr (yn dibynnu ar eich pwysau, eich rhyw, eich oed, eich metabolism, eich lefelau straen, faint o fwyd yr ydych wedi'i fwyta, a ydych wedi cymryd meddyginiaeth a'r math o alcohol a yfwyd).
Os byddwch yn meddwi, dylech osgoi yfed alcohol am y 48 awr nesaf i roi cyfle i'ch corff ddod ato'i hun.
Peidiwch ag yfed os yw meddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol arall wedi'ch cynghori i yfed llai neu i stopio'n gyfan gwbl, neu (er enghraifft):
Gall cam-drin alcohol arwain at amrywiol broblemau iechyd. Yn y tymor byr, gall achosi i chi deimlo'n gysglyd, teimlo'n llawn tensiwn, eich dadhydradu, eich gwneud yn anymwybodol, neu hyd yn oed eich lladd. Yn y tymor hir, gwyddys ei fod yn cyfrannu at broblemau iechyd mwy difrifol, gan gynnwys niwed i'r afu/iau, canser a chlefyd y galon.
Yn y DU y lefel gyfreithiol yw 80 miligram o alcohol mewn 100 mililitr o waed - fel syniad bras, mae hyn yn golygu na ddylai dynion yfed mwy na phedair uned o alcohol ac na ddylai merched yfed mwy na thair uned cyn gyrru. Canllaw yn unig yw hwn, ac nid yw'n bosib nodi gyda sicrwydd faint y gallwch ei yfed cyn mynd dros y terfyn cyfreithiol. Yr unig ffordd ddiogel o osgoi damwain angheuol, gwaharddiad rhag gyrru a/neu ddirwy fawr yw peidio ag yfed o gwbl os ydych chi'n bwriadu gyrru.
Gall yr heddlu roi prawf anadl i chi os ydynt yn amau eich bod wedi bod yn yfed gormod cyn gyrru. Mae'r prawf yn amcangyfrif crynodiad alcohol yn y gwaed. Os byddwch yn methu'r prawf, byddwch yn cael eich cyhuddo ac fe gedwir y prawf anadl fel tystiolaeth. Mae methu â rhoi prawf anadl yn drosedd.
Mae ymddygiad gwrth-gymdeithasol sy'n deillio o or-yfed, hynny yw yfed llawer iawn o alcohol mewn cyfnod byr o amser, wedi golygu bod rhai trefi a dinasoedd wedi gwahardd alcohol yn gyfan gwbl mewn rhai ardaloedd penodedig. Os cewch eich dal yn yfed yn un o'r ardaloedd hyn, mae'n bosib y cewch ddirwy o £50. Os profir eich bod yn euog o fod yn feddw ac yn afreolus mewn man cyhoeddus, gallech gael dirwy o £80 a gorchymyn ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASBO).
Does dim rhaid i chi fod yn alcoholic i fod yn yfed dros lefel ddiogel. Gyda hyn mewn golwg, mae'r GIG wedi datblygu rhaglen ar-lein 'Down Your Drink', sydd ar gael yn rhad ac am ddim ac sy'n gyfrinachol. Mae'n rhoi gwybodaeth i yfwyr ar sut i fod yn 'yfwr â meddwl eich hun'.
Yn ogystal â'ch meddyg lleol, ceir mudiadau lleol sy'n cynnig cefnogaeth, er enghraifft Alcoholics Anonymous. Gallan nhw eich cyfeirio at driniaeth strwythuredig megis ailsefydlu neu ddadwenwyno.
Os oes arnoch angen siarad â rhywun, gall llinell gymorth Drinkline (0800 917 8282) roi cyngor a gwybodaeth i chi yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol.
Mae Alcohol Concern hefyd wedi llunio cyfres o daflenni ffeithiau sy'n cynnwys gwybodaeth a chanllawiau a all fod yn ddefnyddiol i chi.