Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymhorthion cerdded

Os oes angen cymorth dros dro arnoch i symud o gwmpas, y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) sy'n gyfrifol am ddarparu 'cymhorthion symud personol'. Gall pobl y mae angen cymhorthion symud yn yr hir dymor arnynt gael cymorth gan eu cyngor lleol.

Ar gyfer cymhorthion cerdded dros dro, fel arfer bydd angen i chi gael eich cymeradwyo gan ffisiotherapydd a fydd yn rhoi cyngor i chi am yr offer sy'n addas i chi. Gallwch gael eich cyfeirio at ffisiotherapydd trwy eich:

  • ysbyty lleol
  • gwasanaeth iechyd cymunedol
  • canolfannau iechyd lleol
  • meddyg teulu

Gall cymhorthion symud personol gynnwys:

  • ffyn cerdded
  • fframiau cerdded
  • baglau
  • cymhorthion cerdded eraill

Cael cymhorthion cerdded

Mae'r GIG yn benthyca offer o'r fath. Ni chaiff godi tâl am yr offer, ond mewn rhai achosion efallai y gofynnir i chi dalu blaendal a fydd yn cael ei roi yn ôl i chi.

Gellir cael cymhorthion ar gyfer yr hirdymor trwy i therapydd galwedigaethol o'ch adran gwasanaethau cymdeithasol lleol gynnal asesiad. Bydd hefyd yn gallu rhoi gwybod i chi am fudiadau gwirfoddol a chyrff preifat a fydd yn gallu'ch helpu chi.

Mae sawl cwmni'n cynhyrchu offer symud. Gall therapydd galwedigaethol o'ch adran gwasanaethau cymdeithasol lleol roi cyngor i chi am gwmnïau o'r fath ac am fudiadau gwirfoddol hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU