Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cymhorthion gweld i bobl rhannol ddall

Os ydych wedi colli'ch golwg yn rhannol, mae cymhorthion, megis chwyddaduron poced, sy'n cael eu dal â llaw ac ar stand, ar gael a all eich helpu i ddefnyddio'r golwg sydd gennych yn weddill.

Gall chwyddaduron, binocwlars a monocwlars a roddir ar sbectol helpu gydag edrych ar bethau yn y pellter.

Os ydych yn derbyn gofal llygad mewn ysbyty ar hyn o bryd, gofynnwch am gael eich cyfeirio at y Gwasanaeth Golwg Gwael, lle byddwch yn derbyn asesiad llawn er mwyn i chi gael y chwyddhadur gorau ar eich cyfer.

Gellir cael llawer o'r chwyddaduron yn ddi-dâl gan eich Gwasanaeth Golwg Gwael lleol. Gallwch hefyd eu prynu'n breifat trwy optegwyr.

Teledu cylch caeedig

Mae teledu cylch caeedig (CCTV) yn gweithio trwy roi'r hyn yr ydych am ei weld o dan gamera arbennig a bydd y dudalen yn ymddangos yn fawr ar sgrin deledu.

Gall CCTV fod yn ddrud ond efallai y gellir ei rentu. Holwch eich meddyg lleol neu cysylltwch â mudiad gwirfoddol.

Mudiadau sy'n gallu helpu

Ceir sawl mudiad gwirfoddol ar gyfer pobl sy'n colli'u golwg. Mae Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB) yn cynhyrchu llawer o daflenni gwybodaeth sy'n rhoi cyngor ac yn argymell nwyddau ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall.

Mwy o ddolenni defnyddiol

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU