Gall pobl ag anawsterau siarad neu ysgrifennu difrifol gael cymorth trwy gymhorthion cyfathrebu gartref ac yn y gwaith.
Dyma fathau o gymhorthion cyfathrebu:
Efallai y gallwch dderbyn cymhorthion cyfathrebu gan y canlynol:
Gall y Ganolfan Byd Gwaith helpu hefyd os oes angen cymhorthion cyfathrebu ar gyfer gwaith. Cysylltwch â'ch Canolfan Byd Gwaith lleol i siarad gydag ymgynghorydd. Mae cyfarpar ar gael trwy'r rhaglen 'Mynediad at Waith'.
Er mwyn cael gwybod mwy am gymhorthion cyfathrebu, gofynnwch i'ch meddyg teulu eich rhoi mewn cysylltiad â gwasanaeth therapi lleferydd ac iaith lleol y GIG.
Os oes raid, gall staff y gwasanaeth lleol hwn eich cyfeirio at ganolfannau rhanbarthol neu genedlaethol y GIG. Mae therapyddion lleferydd ac iaith yn gweithio yn y canolfannau hyn, a therapyddion galwedigaethol weithiau. Bydd y canolfannau hyn yn asesu'ch anghenion ac yn rhoi cyngor i chi am y cyfarpar mwyaf addas i chi.