Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn benthyca cymhorthion clyw yn ddi-dâl, a hefyd yn eu cynnal a'u cadw'n ddi-dâl. Mae hawl gennych hefyd i'ch clyw gael ei asesu.
Os oes cwyr wedi casglu yn y glust neu os oes haint yn y glust sydd wedi effeithio dros dro ar eich clyw, efallai y gall eich meddyg lleol eich trin. Fel arall, dylai eich meddyg teulu eich cyfeirio at adran y glust, y trwyn a'r gwddf (ENT) neu adran awdioleg mewn ysbyty i weld awdiolegydd neu lawfeddyg ENT.
Yn dibynnu ar y trefniadau yn eich ardal leol, os ydych dros 60 oed, gall eich meddyg eich 'cyfeirio'n uniongyrchol' i'r adran ENT neu awdioleg. Mae rhai meddygon teulu'n trefnu i staff yr adran awdioleg ymweld â'u meddygfeydd neu ganolfan iechyd i gynnal clinig. Felly, gall eich clyw gael ei asesu yn eich meddygfa neu ganolfan iechyd lleol yn hytrach na gorfod mynd i ysbyty.
Gall y GIG ddarparu cymhorthion clyw:
Does dim modd cael cymhorthion clyw taflu-i-ffwrdd ar y GIG ac fel arfer nid yw'n bosibl cael y cymhorthion clyw bychan iawn sy'n ffitio'n llwyr yng nghorn y glust. Allwch chi ddim cael cymorth ariannol gan y GIG i brynu cymorth clyw yn breifat. Ond, os ydych yn dewis prynu cymorth clyw yn breifat, mae gennych hawl o hyd i gael cymorth clyw ar y GIG.
Dim ond ar gyfer pobl sy'n hollol fyddar gyda nerfau'r clyw'n dal yn weithredol y mae mewnblaniadau cochleaidd yn addas.
Mae'r GIG yn cyflwyno'r gwasanaeth cymhorthion clyw digidol newydd yn holl adrannau awdioleg Lloegr erbyn Ebrill 2005. Mae gweddill y DU hefyd yn 'troi'n ddigidol'.
Yn y dyfodol, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar (RNID) fydd yn cynhyrchu llyfrynnau cymhorthion clyw'r GIG a fydd yn eich helpu chi i ddefnyddio'ch cymorth clyw. Mae hefyd yn cynhyrchu llawer o daflenni gwybodaeth ar gymhorthion clyw a chynnyrch ar gyfer pobl fyddar a phobl drwm eu clyw.
Mae nifer o fudiadau gwirfoddol eraill hefyd ar gyfer pobl fyddar neu bobl drwm eu clyw.
Fel rhan o asesiad ENT, archwilir eich clustiau am arwyddion amlwg o ddifrod neu haint, a byddant yn holi am eich hanes meddygol. Bydd yr awdiolegydd yn profi'ch clyw a hefyd yn trafod y math o gymorth clyw a fydd yn addas i chi. Byddwch yn cael apwyntiad arall i ffitio'ch cymorth clyw.