Pan fydd calon ac anadlu person yn stopio, weithiau mae'n bosibl ailgychwyn y galon gan ddefnyddio CPR (cardiopulmonary resuscitation). Mae gwella ar ôl CPR yn amrywio ac efallai na fydd y claf yn meddu ar ei lefel flaenorol o iechyd corfforol neu feddyliol. Os nad ydych am gael CPR, gallwch ei wrthod a rhaid iddynt ufuddhau i'ch dymuniadau.
Dyma rai dulliau o ddadebru:
Mae CPR yn llwyddo i ailgychwyn y galon a'r anadlu mewn oddeutu pedwar achos o bob deg. Ar gyfartaledd, mae dau o bob 10 claf yn goroesi'n ddigon hir i adael yr ysbyty.
Bydd y ffordd y mae claf yn ymateb i CPR yn dibynnu ar:
Mae'r rhan fwyaf o gleifion sy'n cael eu dadebru yn aml yn dal yn wael ac angen gofal dwys neu ofal coronaidd. Ond mae pawb yn wahanol. Bydd eich meddyg neu dîm gofal iechyd yn esbonio beth y gall CPR ei wneud i chi.
Gall dadebru weithiau achosi problemau corfforol megis cleisio, torri asennau neu dyllu'r ysgyfaint. Os ceir oedi gyda'r driniaeth, gallai'r ymennydd gael ei niweidio.
Gallwch chi, eich meddyg a'ch tîm meddygol benderfynu ar y cyd a ddylid defnyddio CPR os yw'ch calon a'ch anadlu wedi stopio. Un o'r ffactorau allweddol i'w ystyried yw a fydd CPR yn debygol o lwyddo a beth yw'r lefel gwella ddisgwyliedig. Mae'ch dymuniadau chi yn rhan bwysig o'r broses gwneud penderfyniad. Yn ogystal â siarad gyda'ch meddyg, efallai y byddwch am drafod eich opsiynau gyda theulu a ffrindiau agos.
Os nad ydych yn teimlo eich bod yn barod i benderfynu neu i drafod CPR, bydd y meddyg sy'n gofalu amdanoch yn penderfynu ar eich rhan os bydd yn angenrheidiol. Byddant yn ystyried eich sefyllfa a'r hyn fyddwch chi neu'r rhai agosaf atoch wedi'i ddweud. Os ydych o dan 18 (16 yn yr Alban) gall eich rhieni benderfynu drosoch.
Os nad ydych am gael CPR, gallwch ei wrthod a rhaid i'ch tîm gofal iechyd ufuddhau i'ch dymuniadau. Gallwch roi gwybod iddynt am eich dymuniadau drwy eu hysgrifennu mewn ewyllys byw (a elwir yn 'flaengyfarwyddeb'). Gofynnwch i'ch tîm gofal iechyd gadw copi o hwn yn eich nodiadau. Neu gallwch ofyn i gofnod o'ch dymuniadau gael ei gofnodi yn eich nodiadau. Mae'n syniad da rhoi gwybod i'r teulu a ffrindiau am eich dymuniadau.
Os ydych yn penderfynu peidio â derbyn CPR, byddwch yn parhau i dderbyn y gofal gorau posibl. Bydd nodyn yn cael ei ychwanegu at eich cofnodion yn dweud nad yw'r galon a'r ysgyfaint i'w dadebru (a elwir weithiau yn 'do-not-attempt-resuscitation' neu DNAR). Sylwch mai dim ond at CPR y mae DNAR yn berthnasol. Byddwch yn parhau i dderbyn mathau eraill o driniaeth achub bywyd.
Gallwch newid eich meddwl unrhyw bryd ynghylch penderfyniad yr ydych wedi'i wneud o ran derbyn CPR.
Os bydd eich calon yn stopio neu os byddwch yn stopio anadlu, ond nad ydych wedi dweud beth yw eich dymuniadau o ran CPR, bydd y meddygon yn penderfynu a yw hynny er eich lles gorau chi. Nid oes gan y teulu neu ffrindiau hawl i benderfynu. Ond byddant yn rhan o drafodaethau ynghylch yr hyn i'w wneud, felly rhowch wybod iddynt beth yw eich dymuniadau. Os oes pobl nad ydych am i feddygon ofyn iddynt am eich gofal, rhowch wybod i'r tîm gofal iechyd.
Yn yr Alban, gall pobl dros 16 benodi 'procsi; partner, ffrind neu berthynas sydd â'r pwer cyfreithiol i roi caniatâd i driniaeth feddygol pan na all y claf wneud penderfyniadau.
Os ydych am gael eich dadebru beth bynnag fydd y canlyniad a bod gan y staff meddygol amheuon ynghylch a fyddai CPR yn gweithio, byddant yn trefnu i gael barn feddygol arall os hoffech chi gael un.
Os ydych am gael eich dadebru o hyd, bydd y staff meddygol yn rhoi cynnig ar ddadebru os mai hynny sydd orau i chi ar y pryd. Ond ni fyddant yn rhoi triniaeth sy'n mynd yn groes i'w barn glinigol.
Dylech allu cael gwybodaeth ysgrifenedig am bolisïau dadebru gan sefydliadau gofal iechyd gan gynnwys eich ymddiriedolaeth GIG leol, ysbytai, meddygfeydd a chartrefi gofal preswyl. Gallwch siaradwch ag aelod o’r staff i drafod y materion.
Os ydych yn bryderus nad yw eich dymuniadau o ran CPR yn cael eu trafod yn briodol neu nad ydynt yn cael eu hystyried, gallwch gwyno.
Mae gan bob ymddiriedolaeth gofal iechyd ac ysbytai preifat a'r GIG drefn gwyno. Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod mwy. Os ydych yn dal yn anhapus gallwch gwyno wrth y Comisiwn Gofal Iechyd (corff arolygu'r GIG a gofal iechyd annibynnol).
Dylai pob cartref gofal preswyl preifat ac awdurdod lleol feddu ar drefn gwyno. Os ydych dal yn anhapus ar ôl dilyn eu trefn gwyno, gallwch gwyno wrth y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol.