Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gofal iechyd brys

Os ydych chi'n cael eich hun mewn sefyllfa lle mae arnoch angen cyngor, help neu driniaeth feddygol ar frys, mae'n syniad da eich bod yn gwybod beth i'w wneud. Bydd yr erthygl hon yn eich helpu i wybod beth yn union yw achos brys/argyfwng, y mathau o wasanaeth sydd ar gael a pha un sydd orau ar eich cyfer chi.

A oes angen gwasanaeth brys arnoch?

Mae'n bwysig deall beth yn union yw argyfwng. Ar wefan NHS Direct, cewch weld a allech ddefnyddio dulliau hunan-gymorth, neu gallwch ganfod beth sy'n cael ei ystyried yn achos brys neu argyfwng.

Dewis y gwasanaeth brys cywir

Mae'n bwysig eich bod yn dewis gwasanaeth brys a fydd yn rhoi'r driniaeth gywir i chi. Os nad ydych yn siŵr beth i'w wneud, gallwch ffonio NHS Direct am gyngor ar 0845 4647.

Y Gwasanaeth Ambiwlans - ffoniwch 999

Os yw'n amlwg bod angen triniaeth frys arnoch chi neu ar rywun arall, yna ffoniwch 999, yn rhad ac am ddim o unrhyw ffôn cyhoeddus neu breifat, a gofynnwch am y gwasanaeth ambiwlans.

Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys

Mae gan y rhan fwyaf o ysbytai mawr adran ddamweiniau ac achosion brys sydd ar agor drwy'r dydd a'r nos, a gallwch fynd yno heb orfod gwneud apwyntiad.

Mae'n bosib y bydd rhaid i chi aros eich tro i weld meddyg neu nyrs, hyd yn oed os yw eich anafiadau yn rhai difrifol. Bydd faint o amser yn union y bydd rhaid i chi ddisgwyl yn dibynnu ar y canlynol:

  • pa mor brysur yw'r adran
  • pa mor ddifrifol yw cyflwr cleifion eraill
  • a fydd eich cyflwr chi'n gwaethygu os na chewch eich trin ar unwaith

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am eich adran ddamweiniau ac achosion brys agosaf drwy chwilio gwefan NHS Choices.

Unedau Mân Anafiadau

Dylai cleifion gydag anafiadau llai difrifol, megis ysigiadau, briwiau a chrafiadau, fynd i Uned Mân Anafiadau. Mae'r amseroedd aros fel arfer yn llawer llai nag mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys ac nid oes angen apwyntiad arnoch yma chwaith. Cysylltwch â NHS Direct i ddod o hyd i'ch Uned Mân Anafiadau agosaf.

Canolfannau galw i mewn y GIG

Os oes gennych chi fân anaf neu salwch, mae'n bosibl y gallwch ymweld â chanolfan galw i mewn y GIG. Does dim angen apwyntiad arnoch.

Gall yr oriau agor amrywio, ond mae'r rhan fwyaf o ganolfannau ar agor o tua 7.00 am tan 10.00 pm rhwng dydd Llun a dydd Gwener, a rhwng 9.00 am a 10.00 pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Meddyg y tu allan i oriau

Mae rhai meddygfeydd yn darparu gwasanaeth y tu allan i oriau gwaith, rhwng 6.30 pm a 8.00am yn ystod yr wythnos, drwy gydol y penwythnos ac ar wyliau banc. Ceir y manylion cyswllt ar gyfer y gwasanaeth hwn yn y feddygfa neu gan y derbynnydd.

Os nad yw eich meddygfa'n darparu gwasanaeth y tu allan i oriau, eich Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol fydd yn darparu gwasanaeth lleol. Gallwch ddod o hyd i fanylion cyswllt eich Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol ar wefan NHS Choices.

Triniaeth ddeintyddol

Prin iawn yw'r achosion brys deintyddol sydd angen gwasanaeth y tu allan i oriau, ond os oes angen y gwasanaeth arnoch chi, bydd eich Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol leol wedi rhoi'r trefniadau priodol ar waith. Fodd bynnag, yr unig wasanaeth gofal deintyddol a ddarperir ganddynt fydd ar gyfer achosion sydd angen triniaeth frys na ellir disgwyl tan y diwrnod gwaith nesaf y bydd y practis deintyddol ar agor.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan eich Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol leol neu drwy gysylltu â NHS Direct.

Atal cenhedlu

Os ydych chi wedi cael rhyw heb warchodaeth a'ch bod yn dymuno cael meddyginiaeth atal cenhedlu brys, a elwir yn 'bilsen bore wedyn', gallwch eu cael mewn meddygfa, Clinig Cynllunio Teulu lleol neu gan fferyllydd.

Iechyd meddwl

Os ydych:

  • yn profi problemau emosiynol neu feddyliol sy'n achosi pryder dybryd
  • angen siarad â rhywun am ymddygiad person arall, ar unrhyw bryd yn ystod y dydd neu'r nos

gallwch ffonio:

  • NHS Direct ar 0845 4647 i siarad â nyrs hyfforddedig
  • y Samariaid ar 08457 90 90 90 i siarad â gwirfoddolwr hyfforddedig

I gael gwybod rhagor am iechyd meddwl, bydd angen i chi siarad â meddyg, nyrs, gweithiwr cymdeithasol neu gydlynydd gofal.

Digwyddiadau sy'n effeithio ar iechyd y wlad

Pe bai digwyddiad iechyd difrifol yn ein taro, er enghraifft, un a achoswyd gan ymosodiad terfysgol, tywydd poeth eithriadol neu ffliw pandemig, yna mae'r wefan Paratoi ar gyfer Argyfyngau yn rhoi gwybodaeth am sut y gallwch chi'ch helpu'ch hun a'ch teulu mewn argyfwng.

Yn yr adran hon...

Additional links

Diogelwch Tân

Camau syml i'ch diogelu chi a'ch teulu rhag tân

Cysylltiadau defnyddiol

Allweddumynediad llywodraeth y DU