Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Cyflwyniad i gartrefi gofal

Efallai bod angen lefel o gefnogaeth arnoch nad yw'n bosibl ei darparu yn eich cartref eich hun. Efallai mai cartref gofal ydy'r ateb - ac yn ddewis cadarnhaol i'w wneud.

Gall adran gwasanaethau cymdeithasol eich cyngor lleol roi gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael a sut i'w cael. Mae ganddynt ddyletswydd i sicrhau bod eich anghenion gofal yn cael eu diwallu.

Mae llawer o elusennau'n cefnogi pobl gydag anabledd penodol ac maent hwythau'n ffynhonnell dda o wybodaeth. Mae gan rai eu cartrefi gofal eu hunain sy'n amrywio o gartrefi ar gyfer plant anabl, pobl ag anableddau dysgu i bobl sydd angen cefnogaeth lawn amser ar gyfer anableddau corfforol neu luosog.

Dewis cartref gofal

Mae gennych hawl dewis eich cartref gofal. Mae digon o ddewis, ond gall gymryd amser i ddod o hyd i'r un sy'n iawn ar eich cyfer chi. Dylech wneud yn siur fod y cartref gofal a ddewiswch gyda'r cyfleusterau, yr offer a'r staff gyda'r hyfforddiant priodol i fodloni'ch anghenion.

Mae pob cyngor lleol yn gosod symiau y byddant yn eu talu fel arfer ar gyfer rhywun gyda'ch anghenion asesedig. Os ydych eisiau symud i gartref gofal drutach, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu'r gwahaniaeth.

Mathau o gartrefi gofal

Efallai mai cartref gofal ydy'r ateb - ac yn ddewis cadarnhaol i'w wneud

Talu'r gost

Mae ffioedd cartrefi gofal yn peri pryder i lawer o bobl. Weithiau, gall cartrefi gofal sy'n darparu gwasanaethau a chyfleusterau sy'n briodol ar gyfer anableddau penodol fod yn ddrud.

Bydd gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal yn asesu'ch anghenion ac yn eich helpu i ddod o hyd i gartref gofal a fydd yn diwallu'r anghenion hynny.

Byddant wedyn yn cynnal asesiad ariannol i ganfod faint y gallwch fforddio ei gyfrannu tuag atynt. Ar hyn o bryd, os oes gennych dros £20,500 o gyfalaf, bydd yr asesiad yn nodi y byddwch yn gallu talu cost lawn eich gofal.

Cyfnodau dros dro mewn cartref gofal

Efallai y byddwch yn dewis aros dros dro mewn cartref gofal er mwyn gwella o salwch neu i roi egwyl i chi a'ch gofalwr. Dylech hefyd allu aros dros dro am gyfnod prawf i weld a ydy'r cartref gofal yn addas ar eich cyfer. Mae rhai pobl hefyd yn mynd i gartrefi gofal am ofal dydd.

A fydd hyn yn cael effaith ar fy mudd-daliadau?

Gall symud i gartref gofal effeithio ar y budd-daliadau rydych chi'n eu derbyn. Bydd y rhan fwyaf o'ch budd-daliadau'n ffurfio rhan o'ch cyfraniad tuag at ffioedd eich cartref gofal, ac felly mae'n bwysig eich bod yn hawlio'r holl fudd-daliadau y mae gennych hawl iddynt. Mae'n bosibl hefyd yr effeithir ar eich budd-daliadau gan gyfnod dros dro neu gyfnod prawf mewn cartref gofal.

Cartrefi gofal ac ysbytai

Mae rhai pobl yn symud i gartref gofal yn uniongyrchol o'r ysbyty - os ydynt newydd ddod yn anabl efallai. Ni ellir eich rhyddhau o ysbyty i gartref gofal heb eich caniatâd ac mae gennych hawl dewis eich cartref gofal. Weithiau efallai y bydd yn rhaid i chi fynd i ysbyty a chithau'n byw mewn cartref gofal.

Safonau cartrefi gofal

Mae'r Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol yn rheoleiddio cartrefi gofal ac yn arolygu pob cartref gofal a gofrestrir ganddynt. Pan fyddwch yn symud i gartref gofal, dylech gael gwybod am y drefn gwyno. Os oes gennych unrhyw broblemau, gallwch gwyno'n uniongyrchol wrth y cartref gofal neu gwyno wrth y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU