Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Eich cartref, eich asedau a ffioedd eich cartref gofal

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn talu o leiaf ran o ffioedd eu cartref gofal ond nid yw hyn bob tro'n golygu bod rhaid i chi werthu'ch cartref ac asedau eraill.

Os cynlluniwch ar gyfer y dyfodol, gallwch sicrhau bod gennych rywbeth o werth i'w adael yn eich ewyllys. Mae ffyrdd hefyd o osgoi gwerthu'ch cartref, rhag ofn i'ch cyflwr wella ac ichi fynd yn ôl i fyw yno eto.

Sut yr asesir eich cyfraniad at ffioedd cartref gofal

Os oes gennych dros £22,250 o gyfalaf (cynilion, buddsoddiadau ac eiddo yn cynnwys gwerth eich cartref), bydd asesiad eich cyngor lleol yn tybio eich bod yn gallu talu cost lawn eich cartref gofal.

Beth sy'n digwydd os ydych yn berchennog ar eich cartref

Os ydych yn berchen ar eich cartref, gall gael ei ystyried yn gyfalaf 12 wythnos ar ôl i chi symud yn barhaol i gartref gofal. Ond ni fydd eich cartref yn cael ei ystyried yn gyfalaf os oes un neu fwy o'r canlynol yn dal i fyw yno:

  • eich gŵr, gwraig, partner sifil neu bartner de facto
  • perthynas agos sy'n 60 oed neu drosodd, neu gydag analluogrwydd
  • perthynas agos sydd dan 16 oed yr ydych yn gyfrifol am ei gefnogi dan y gyfraith
  • eich cyn ŵr, cyn wraig, cyn bartner sifil neu gyn bartner os ydynt yn rhiant unigol

Efallai y bydd eich cyngor lleol yn penderfynu peidio ag ystyried eich cartref yn gyfalaf os yw eich gofalwr yn byw yno ond does dim rhaid iddynt.

Eich cartref a chyfnodau dros dro mewn cartref gofal

Os ewch i gartref gofal dros dro, ni fyddwch yn cael asesiad ariannol gan eich cyngor lleol ac ni fydd eich cartref yn cael ei ystyried yn gyfalaf. Os byddwch yn mynd i gartref gofal dros dro ac os bydd eich arhosiad yn dod yn barhaol, bydd eich cartref yn cael ei ystyried yn gyfalaf ar ôl ichi fod yn breswylydd parhaol am 12 wythnos.

Cadw'ch cartref a'ch asedau

Cytundebau taliadau gohiriedig

Gall cynghorau lleol wneud cytundebau taliadau gohiriedig gyda phobl sydd wedi'u hasesu'n abl i dalu cost lawn ffioedd eu cartref gofal oherwydd bod eu cartrefi'n cael eu hystyried yn gyfalaf. Y nod yw gadael i bobl gadw'u cartref yn hytrach na'i werthu i dalu am gost eu gofal.

Dan gytundeb taliadau gohiriedig, dim ond y cyfraniad y byddech wedi gorfod ei wneud petai'ch cartref heb ei ystyried yn gyfalaf y bydd rhaid i chi ei dalu, a bydd y cyngor yn cadw cofnod o'r gweddill sy'n ddyledus gennych. Ar ddiwedd eich oes neu ar ryw ddyddiad penodol cyn hynny o'ch dewis chi, bydd y cyngor yn casglu'r arian sy'n ddyledus iddo o'r arian a geir o werthu'r cartref neu gan bwy bynnag sy'n etifeddu'r eiddo.

Trefnir cytundebau taliadau gohiriedig yn ôl disgresiwn y cyngor lleol.

Sefydlu ymddiriedolaeth deulu

Sefydlu ymddiriedolaeth deulu yw un ffordd o drosglwyddo perchnogaeth eich cartref neu asedau eraill i rywun arall a chithau'n dal yn fyw. Dylech gael cyngor gan gyfreithiwr am hyn oherwydd mae'r gyfraith sy'n gysylltiedig ag ymddiriedolaethau'n gymhleth.

Rhoi arian neu eiddo i bobl eraill

Efallai y dewiswch roi arian neu asedau i'ch plant neu i'ch wyrion, er enghraifft. Does dim terfyn ariannol ar roddion i'ch plant, wyrion neu berthnasau eraill, ond efallai y bydd yn rhaid iddynt dalu treth ar unrhyw log neu incwm y byddant yn ei dderbyn.

Os byddwch yn rhoi ased i rywun o fewn y saith mlynedd cyn i chi farw, efallai y bydd yn rhaid i'r sawl sy'n derbyn y rhodd dalu Treth Etifeddu arno.

Rydych yn torri'r gyfraith os byddwch yn trosglwyddo ased i berson arall yn benodol er mwyn osgoi talu ffioedd cartref gofal. Does dim cyfyngiad amser i faint more bell yn ôl gall y cyngor fynd i gael gwybod os ydych wedi rhoi asedau i ffwrdd er mwyn osgoi talu ffioedd cartref gofal. Os daethpwyd o hyd i hyn, gall y cyngor eich trin chi fel bod yr ased dal gyda chi a bydd rhaid i chi dalu am eich gofal yn unol â hynny. Os oedd y trosglwyddiad o fewn chwe mis o’r amser oedd angen gofal arnoch, gall y cyngor adennill y gost o’ch gofal o’r person/au a dderbyniodd y rhodd.

 Os ydych wedi trosglwyddo ased i berson arall yn y chwe mis cyn i chi gael lle mewn cartref gofal, dywed y gyfraith y gall eich cyngor lleol eich gorfodi i dalu ffioedd eich cartref gofal.

Cynllunio'ch etifeddiaeth

Cyn i chi symud yn barhaol i gartref gofal, dylech gynllunio'ch etifeddiaeth a gwneud ewyllys os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes.

Rhentu'ch cartref i rywun arall

Yn hytrach na gwerthu'ch cartref, efallai y gallwch ei rentu i denantiaid a defnyddio'r rhent i dalu ffioedd y cartref gofal. Ceir gwybodaeth fanwl am osod eiddo ar rent yn yr adran gosod eich cartref.

Gwerthu eich cartref

Os oes rhaid i chi dalu cost lawn ffioedd eich cartref gofal, efallai y byddwch yn penderfynu gwerthu'ch cartref neu'ch asedau eraill. Ceir gwybodaeth fanwl am werthu eiddo yn yr adran gwerthu eich cartref.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU