Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gweld cofnodion meddygol

Yma, cewch wybod sut i gael gweld eich cofnodion meddygol, faint fydd hyn yn ei gostio, a sut i gael gweld cofnodion meddygol rhywun arall os yw hynny'n angenrheidiol.

Sut i gael gweld eich cofnodion

Eich meddygfa sy'n cadw'ch cofnodion meddygol neu os ydych wedi cael triniaeth mewn ysbyty, bydd y cofnodion hynny'n cael eu cadw yn yr ysbyty. Mae hawl gennych i weld y rhain dan Ddeddf Diogelu Data 1998. Gallwch ofyn i'ch meddyg teulu, staff y feddygfa neu'ch awdurdod lleol am gael gweld eich cofnodion meddygol. Holwch faint fydd hyn yn ei gostio oherwydd codir tâl fel arfer (darllenwch 'Faint fydd y gost' isod) ac mae'n bosib y bydd rhaid i chi ddangos prawf o bwy ydych chi.

Fodd bynnag, rydym yn argymell eich bod yn gwneud cais ysgrifenedig drwy anfon llythyr drwy'r post cofnodedig, yn cynnwys unrhyw daliad a phrawf o bwy ydych chi. Dylech dderbyn ymateb cyn pen 21 diwrnod ar ôl iddyn nhw dderbyn eich cais, er bod y gyfraith (yn ôl y Ddeddf Diogelu Data) yn rhoi 40 diwrnod i'r ysbyty neu'r feddygfa i ymateb yn ysgrifenedig.

Os yw'r cofnodion yn cael eu cadw mewn ysbyty, dylech anfon eich llythyr at Reolwr Gwasanaethau Cleifion yr ysbyty neu'r Swyddog Cofnodion Meddygol.

Dylai eich cofnodion, pan gewch chi nhw, fod ar ffurf y gallwch chi eu darllen a'u deall.

Os na chewch weld eich cofnodion

Ni chewch weld eich cofnodion:

  • os yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o'r farn bod gwybodaeth yn y cofnodion sy'n debygol o achosi niwed difrifol i'r claf neu i berson arall
  • os oes manylion am drydydd parti yn y cofnodion - ond gellir tynnu'r rhain allan

Serch hynny, os ydych chi'n credu bod y sefydliad wedi torri'r Ddeddf Diogelu Data drwy beidio â gadael i chi weld y cofnodion, gallwch gysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Faint fydd y gost?

Dyma'r costau:

  • £10 am wybodaeth sy'n cael ei dal ar fformat electronig
  • hyd at £50 am gofnodion ysgrifenedig

Cael gweld cofnodion rhywun arall

Os ydych chi'n gwneud cais am gofnodion meddygol ar ran rhywun arall, bydd angen i chi gael eu caniatâd neu bŵer atwrnai.

Cael mwy o wybodaeth

Mae Cymdeithas y Cleifion wedi cynhyrchu llyfryn defnyddiol sy'n esbonio sut y gallwch chi gael gafael ar eich cofnodion meddygol. Mae'n eich arwain drwy'r camau angenrheidiol ac yn cynnwys enghreifftiau o'r math o lythyr y bydd rhaid i chi ei anfon i ddilyn y drefn ffurfiol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU