Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Gofalu am eich llygaid

Os ydych yn cael profion llygaid yn rheolaidd ac yn gwisgo sbectol neu lensys cyffwrdd pan fo'u hangen arnoch, gallwch helpu i osgoi problemau gyda'ch llygaid yn y dyfodol.

Cael prawf llygaid

Mae profion llygaid yn ffordd bwysig o ganfod unrhyw broblemau yn gynnar. Maent yn:

  • cael eu cynnal o leiaf bob dwy flynedd (ac efallai yn fwy rheolaidd, yn dibynnu ar eich oedran a'ch hanes meddygol)
  • cael eu cynnal gan optometrydd neu ymarferydd meddygol offthalmig
  • cael eu cynnal, fel rheol, mewn siop optegydd ar y stryd fawr neu yn un o adrannau llygaid yr ysbyty
  • para rhwng 20 a 30 munud
  • cynnwys archwiliadau am heintiadau llygaid, megis glawcoma neu gataractau, neu broblemau iechyd cyffredinol, megis diabetes neu bwysau gwaed uchel
  • eich galluogi i gael eich cyfeirio at feddyg lleol neu offthalmolegydd ymgynghorol yn yr ysbyty (sef meddyg llygaid arbenigol sy'n diagnosio a thrin anhwylderau ar y llygaid), os oes gennych broblem y mae angen ei harchwilio neu ei thrin
  • cael eu cynnal yn y cartref os nad ydych yn gallu gadael eich cartref ar eich pen eich hun oherwydd salwch corfforol neu feddyliol neu anabledd

Efallai fod gennych hawl i gael prawf llygaid am ddim dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Presgripsiynau golwg

Os oes angen sbectol neu lensys cyffwrdd arnoch, byddwch yn cael presgripsiwn gan optometrydd neu ymarferydd meddygol offthalmig. Bydd y presgripsiwn hwn yn ddilys am ddwy flynedd. Bydd yr optegydd yn darparu ac yn ffitio'ch sbectol neu'ch lensys cyffwrdd yn ôl y presgripsiwn.

Cael sbectol neu lensys cyffwrdd

Darperir sbectolau a lensys cyffwrdd yn breifat. Fodd bynnag, os ydych chi'n perthyn i unrhyw un o'r categoriau canlynol, mae'n bosib eich bod yn gymwys i dderbyn taleb optegol y GIG i gyfrannu at y gost (mewn rhai achosion, gellir talu am atgyweirio neu gael sbectol newydd os ydych yn torri neu golli'r hen un):

  • rydych chi dan 19 oed ac mewn addysg amser llawn
  • rydych chi'n oedolyn sy'n derbyn budd-daliadau penodol
  • rydych chi'n cael presgripsiwn am lensys cymhleth

Cewch fwy o wybodaeth am dalebau optegol ar wefan yr Adran Iechyd.

Problemau cyffredin gyda'r golwg

Dyma'r problemau mwyaf cyffredin gyda'r llygaid.

Problemau sy'n cael eu cywiro drwy wisgo sbectol neu lensys cyffwrdd

  • golwg pell (hyperopia)
  • golwg byr (myopia)
  • astigmatism

Problemau nad ydynt o reidrwydd yn ymwneud â cholli golwg

  • llygad sych
  • llid ar y llygaid (conjunctivitis)
  • llid ar yr amrannau (blepharitis)

Problemau sydd ynghlwm wrth ddatblygiad golwg plant

  • llygad diog (amblyopia)
  • llygad croes neu dro yn y llygad (strabismus)

Problemau sy'n achosi colli golwg

  • cataract
  • glawcoma
  • dirywiad macwlaidd

Ceir rhagor o wybodaeth am gyflyrau ar wefan Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Deillion (RNIB), mewn llyfrynnau sydd ar gael gan Goleg Brenhinol yr Offthalmolegwyr ac yng Ngwyddoniadur Iechyd NHS Direct Online.

Delio gyda phroblemau difrifol ar y llygaid

Mae offthalmolegwyr ymgynghorol y GIG a staff proffesiynol eraill yn darparu amrywiol driniaethau ar gyfer problemau llygaid. Os bydd angen eich trosglwyddo am driniaeth, bydd eich optometrydd neu'ch meddyg yn trefnu hyn.

Nid yw llawdriniaeth laser i gywiro nam ar y llygaid (sef triniaeth i'r sawl sy'n bell eu golwg, yn fyr eu golwg, neu sy'n dioddef astigmatism) yn cael ei hystyried yn driniaeth feddygol hanfodol - felly nid yw ar gael yn gyffredinol dan y GIG.

Cael cymhorthion gweld

Os ydych yn colli'ch golwg, mae cymhorthion ar gael a all eich helpu i ddefnyddio'r golwg sydd gennych. Mae'r GIG yn rhoi presgripsiynau ar gyfer cymhorthion gweld i'r sawl sy'n rhannol ddall, ac yn rhoi eu benthyg hefyd. Mae'n bosib y caiff y gwasanaeth hwn ei ddarparu gan y Gwasanaeth Llygaid yn yr Ysbyty neu bractisau optegwyr lleol, mewn rhai rhannau o'r wlad. Mae rhai optegwyr yn darparu cymhorthion gweld yn breifat, ond byddant yn codi tâl arnoch chi. Siaradwch â'ch optometrydd neu'ch meddyg teulu'n gyntaf oherwydd byddan nhw'n gwybod pa drefniadau sydd ar gael yn lleol.

Cymorth gan eich cyngor lleol

Os ydych chi'n dioddef problemau gyda'ch golwg sy'n effeithio ar eich gallu i wneud pethau gartref, yn y gwaith neu yn yr ysgol, mae'n bosib y gall eich cyngor lleol ddarparu gwasanaethau megis:

  • gweithwyr cymdeithasol i'ch cefnogi chi a’ch teulu
  • hyfforddiant ar sut i fynd o gwmpas yn annibynnol
  • cyngor a chymorth am faterion iechyd, addysg, ailsefydlu a chyflogaeth
  • cyfarpar ac addasiadau i'ch cartref
  • peiriannau ar gyfer chwarae llyfrau llafar
  • hyfforddiant i ddefnyddio Braille neu Moon (print cyffwrdd symlach)

Efallai fod gan eich cyngor lleol gysylltiad â mudiad gwirfoddol sy'n darparu'r gwasanaethau hyn yn hytrach na darparu'r holl wasanaethau hyn ei hun.

Ydych chi wedi'ch cofrestru fel person â nam ar eich golwg/dall?

Os bydd offthalmolegydd ymgynghorol mewn ysbyty yn tystio bod gennych nam difrifol ar eich golwg/yn ddall, neu â nam ar eich golwg/yn rhannol ddall, gallwch ofyn am gael eich cofrestru gyda'r cyngor lleol. Pan gewch eich cofrestru fel person dall mae gennych hawl i gael cymorth mewn sawl ffordd, gan gynnwys y cynllun parcio Bathodyn Glas a gostyngiad ar eich trwydded deledu.

Talu am driniaeth GIG, neu gael triniaeth yn rhad ac am ddim

Mae'n bosib bod gennych hawl i gael prawf llygaid am ddim neu gymorth i dalu am sbectol neu lensys cyffwrdd drwy'r GIG. Cewch fwy o wybodaeth am brisiau yn y daflen HC12 a gyhoeddwyd ar wefan yr Adran Iechyd.

Gofyn am farn rhywun arall

Os ydych chi am ofyn am farn rhywun arall am eich cyflwr neu'ch triniaeth ar unrhyw adeg, yna holwch eich meddyg lleol. Gallant eich cyfeirio at arbenigwr arall os ydych chi'ch dau'n cytuno bod angen gwneud hynny.

Cwyno

Gall unrhyw un sydd wedi derbyn nwyddau neu wasanaethau gan optegydd, yn sgil defnyddio gwasanaethau optometrydd neu optegydd gweinyddol sydd wedi cofrestru gyda'r Cyngor Optegol Cyffredinol, wneud cwyn.

Dylid gallu datrys y broblem yn syth bin drwy gwyno'n uniongyrchol wrth yr optegydd dan sylw. Fodd bynnag, os na ellir datrys y mater, yna dylech ysgrifennu at y Gwasanaeth Cwynion i Ddefnyddwyr Optegol. Gallant ddelio â'ch pryderon os cawsoch chi sbectol a/neu lensys cyffwrdd yn y deuddeg mis diwethaf.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU