Yma, cewch wybod mwy am y mathau mwyaf cyffredin o anawsterau clywed a byddardod. Hefyd, cewch wybod mwy am gael prawf clyw, cyfathrebu os ydych yn fyddar a beth allwch chi ei wneud os oes gennych glustiau sy'n sticio allan.
Os ydych chi'n drwm eich clyw, mae'n bosib bod clefyd, anhwylder neu anaf wedi effeithio ar eich clyw.
Os ydych yn colli'ch clyw yn sydyn, mae'n bosib taw cwyr sydd wedi cronni yn eich clust neu fod gennych haint - pa un bynnag, gall eich meddyg eich trin.
Gall hyn hefyd fod yn arwydd bod gennych broblem sy'n eich gwneud yn drwm eich clyw ac efallai y bydd angen cymorth clyw arnoch. Os hynny, dylech fynd i weld eich meddyg - hyd yn oed os ydych yn bwriadu prynu cymorth clyw yn breifat.
Mae rhai pobl yn cwyno o bryd i'w gilydd bod sun cloch neu hyd yn oed sun bwz, hym, chwiban, tiwn neu ganu yn eu clustiau - gall hyn fod yn arwydd bod ganddynt tinnitus. Nid yw'n haint ac nid yw'n beryg bywyd. Mae'n beth digon cyffredin ac fe all ddigwydd ymysg pobl o bob oedran. Mae un o bob tri oedolyn yn datgan bod ganddynt rywfaint o tinnitus.
Os ydych yn fyddar byddwch wedi colli'ch clyw yn ddifrifol. Mae rhai'n cael eu geni'n fyddar neu gall ddatblygu pan fyddant yn oedolion. Mae gan 90 y cant o blant byddar rieni sy'n clywed yn iawn. Achos mwyaf cyffredin o fyddardod, oni bai am fyddardod ers geni, yw sun uchel ee cerddoriaeth uchel.
Iaith arwyddo swyddogol y DU yw Iaith Arwyddo Prydain (British Sign Language). Er bod naw miliwn o bobl fyddar yn y DU dim ond 50,000 o bobl sy'n defnyddio iaith arwyddo - mae darllen gwefusau yn llawer mwy cyffredin.
Os nad ydych erioed wedi cael prawf clyw a'ch bod yn ei chael hi'n anodd clywed pobl yn siarad mewn amgylcheddau swnllyd, yna dylech wneud apwyntiad i weld eich meddyg. Efallai y bydd y meddyg yn eich cyfeirio i gael prawf clyw naill ai yn eich adran awdioleg leol neu glinig Clust, Trwyn a Gwddf.
Gall eich meddyg (neu ymwelydd iechyd gyda babanod) eich cyfeirio naill ai'n uniongyrchol at yr adran awdioleg neu at ymgynghorydd a fydd yn ei dro yn eich cyfeirio ymlaen at awdiolegydd. Efallai y bydd yr awdiolegydd yn awgrymu y dylech wisgo cymorth clyw ac fe all drefnu eich bod chi'n derbyn un, os credwch y gallai hynny fod yn ddefnyddiol.
Y clustiau yw un o'r rhannau cyntaf o'r corff i dyfu i'w llawn maint. Am y rheswm hwn, gall clustiau sy'n sticio allan fod yn fwy amlwg ymysg plant. Yr unig ffordd o symud y clustiau yn ôl yn barhaol yw drwy lawdriniaeth i ail-siapio'r clustiau, sef pinaplasti.
Mae amrywiol elusennau a mudiadau sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth i bobl drwm eu clyw neu fyddar, gan gynnwys Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar, Cun Clyw ar gyfer Pobl Fyddar, Cymdeithas Genedlaethol y Plant Byddar a Chyngor Chwaraeon Prydain i Bobl Fyddar. Gallwch weld eu manylion cyswllt yn ein cyfeiriadur.