Nid yw Directgov yn cynnwys gwybodaeth sy’n ymwneud â chyflyrau meddygol neu anableddau penodol. Bydd y dudalen hon yn eich helpu i ddod o hyd i'r math o wybodaeth yr ydych o bosib yn chwilio amdani.
Mae gan wefan NHS Choices wybodaeth am gannoedd o gyflyrau iechyd a thriniaethau. Gallwch ddefnyddio map rhyngweithiol o'r corff neu edrych ar restr yn nhrefn yr wyddor. Gallwch chwilio am driniaeth, a dod o hyd i ysbytai yn Lloegr sy'n cynnig y driniaeth honno.
Gallwch hefyd gymharu ansawdd clinigol yr ysbytai sy'n cynnig y triniaethau mwyaf cyffredin yn Lloegr, yn ogystal â chael gwybodaeth am gyfleusterau'r ysbytai, a barn cleifion eraill.
Gallwch ffonio NHS Direct ar 0845 4647 i gael cyngor cyfrinachol a gwybodaeth. Gallan nhw gynnig cyngor i chi os nad ydych yn teimlo'n dda, gwybodaeth ar ystod eang o faterion iechyd, a manylion eich meddygon lleol, fferyllfeydd a nifer o wasanaethau iechyd eraill. I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar erthygl NHS Direct isod.
Mae gan Directgov adran ar gyfer pobl anabl sy'n ymdrin ag asesiadau iechyd a gofal cymdeithasol, cyfarpar anabledd, iechyd meddwl, cyflogi gofalwr proffesiynol a llawer mwy. Ceir hefyd restr o sefydliadau ac elusennau sy'n cefnogi anableddau a chyflyrau penodol.
Mae gan y wefan Contact a Family wybodaeth feddygol hefyd, ar anableddau ac anhwylderau prin, yn ogystal â manylion grwpiau cefnogi.