Sefydlwyd LINk i helpu pobl i ddylanwadu neu newid y ffordd y caiff eu hiechyd a'u gwasanaethau gofal cymdeithasol eu cyflwyno.
Unigolion a grwpiau cymunedol sy'n gweithio gyda'i gilydd i wella gwasanaethau cyhoeddus yw LINks. Gwaith LINk yw canfod beth mae pobl yn ei hoffi a ddim yn ei hoffi am wasanaethau lleol a gweithio gyda'r bobl sy'n eu cynllunio a'u rhedeg er mwyn eu helpu i'w gwella. Gall hyn gynnwys siarad yn uniongyrchol gyda phobl gofal iechyd proffesiynol am wasanaeth nad yw'n cael ei gynnig neu awgrymu ffyrdd y gellir gwella gwasanaeth presennol.
Mae gan LINks bwerau hefyd i helpu gyda'u gwaith a sicrhau bod newidiadau yn digwydd.
Bydd LINk yn:
Mae nifer o bobl yn crybwyll oriau agor eu meddygfa leol wrth LINk. Mae'r meddygon yn y feddygfa leol yn dweud yr hoffent agor ar nosweithiau ac ar benwythnosau, ond nad oes ganddynt ddigon o adnoddau.
Mae'r LINk yn cynnig helpu staff y feddygfa i weld pa oriau fyddai'n fwyaf cyfleus ar gyfer pobl leol drwy ofyn i'r gymuned am ei barn. Mae hefyd yn holi LINKs mewn ardaloedd eraill sut maent wedi delio â'r un mater.
Mae ymchwil y LINks yn canfod y byddai'n well gan bobl sy'n gweithio apwyntiadau ben bore fel y gallant weld meddyg heb fod yn hwyr i'r gwaith.
O ganlyniad, mae'r meddygon yn penderfynu y bydd y feddygfa'n cau am un prynhawn yr wythnos fel y gallant agor yn gynt ar gyfer apwyntiadau cynnar. Maent hefyd yn dechrau gwasanaeth ffonio'n ôl er mwyn i bobl gael ymgynghoriad sydyn dros y ffôn.
Mae nifer o fanteision o ddod yn rhan mewn LINk, sy'n cynnwys:
Eich penderfyniad chi yw sut a phryd yr ydych am gymryd rhan - efallai mai dim ond pan gysylltir â chi y byddwch yn dymuno mynegi eich barn, neu efallai y byddwch am gymryd mwy o ran - gan helpu i godi ymwybyddiaeth o fater neu helpu i ganfod atebion (er enghraifft - cyfarfod â darparwyr neu fod yn rhan o grŵp gwaith).
Unrhyw un: gofalwyr, defnyddwyr gwasanaeth, arweinwyr cymunedol, cynrychiolwyr cleifion....mae barn pawb yn bwysig. Gall grwpiau hefyd ymuno: elusennau, grwpiau ffydd, sefydliadau tenantiaid, cynghorau pobl ifanc, sefydliadau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig a ffederasiynau busnes...unrhyw un sydd am sicrhau y gwrandewir ar anghenion eu cymuned.
Gallwch gymryd rhan mewn nifer o wahanol ffyrdd. Gallwch dreulio ychydig funudau'n cymryd rhan mewn arolwg neu dreulio mwy o amser yn cynrychioli'r gymuned pan fydd gwasanaeth iechyd neu ofal cymdeithasol yn cael ei drafod gyda darparwyr gwasanaethau.
Nid oes strwythur sefydlog ar gyfer LINk ac mae'n anhebygol y bydd dwy rwydwaith LINk yn cael eu rhedeg yr un ffordd. Dim ond os bydd y gymuned gyfan yn berchen ar LINk ac yn cymryd rhan ynddi y bydd yn gweithio.
Mae mwy o arian wedi'i roi i gynghorau lleol i ariannu LINKs ond bydd pob LINk yn penderfynu ar y ffordd orau o weithredu a pha flaenoriaethau i ganolbwyntio arnynt. Dylai'r rhan fwyaf o LINKs fod wedi'u rhoi ar waith erbyn mis Medi 2008.
I gael gwybod beth sy'n digwydd yn eich ardal chi, cysylltwch ag adran eich cyngor lleol sydd â chyfrifoldeb dros wasanaethau cymdeithasol.
Fel arall, gallwch lwytho rhestr o gysylltiadau cyhoeddus ar gyfer LINks