Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dod o hyd i'r gwasanaeth GIG cywir

Gallwch gael gafael ar wasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn y DU mewn sawl ffordd. Dyma olwg gyffredinol dros y prif wasanaethau sydd ar gael i'ch helpu chi i gael y driniaeth sydd ei hangen arnoch.

Sut i ddod o hyd i wasanaeth y GIG

I ddod o hyd i ddoctoriaid, deintyddion, optegwyr, fferyllfeydd, canolfannau galw i mewn y GIG, ysbytai ac ystod o wasanaethau eraill yn eich ardal yn Lloegr, ewch i wefan NHS Choices neu ffoniwch NHS Direct ar 0845 46 47.

Eich meddyg teulu

Bydd meddygfa eich meddyg teulu'n darparu'r gwasanaethau canlynol:

  • cyngor a thriniaeth feddygol - cyffredinol
  • presgripsiynau
  • eich cyfeirio at arbenigwr neu ysbyty
  • brechiadau
  • profion

Er mwyn cofrestru gyda meddygfa, siaradwch â'r derbynnydd. Gallant ddweud wrthych a ydych yn byw yn nalgylch y feddygfa ac a oes ganddynt le i gleifion newydd.

Os ydych chi'n cofrestru babi newydd, bydd angen i chi lenwi'r cerdyn cofrestru y bydd y cofrestrydd yn ei roi i chi adeg cofrestru genedigaeth eich babi, a mynd ag ef i'r feddygfa.

Deintyddion y GIG

Does dim angen i chi aros hyd nes y bydd gennych chi'r ddannodd i ymweld â'r deintydd. Yn wir, bydd cael archwiliad pob chwe mis yn helpu i atal unrhyw broblemau mawr rhag datblygu.

I ddod o hyd i'r deintydd GIG agosaf atoch sy'n derbyn cleifion o'r newydd, ewch i wefan NHS Choices neu ffoniwch NHS Direct ar 0845 46 47.

Fferyllwyr

Mae fferyllwyr (cemists) yn arbenigo ar feddyginiaethau. Byddan nhw'n paratoi presgripsiwn a roddir gan eich meddyg.

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am eich meddyginiaeth neu efallai eich bod yn gymwys i gael presgripsiynau am ddim - cewch wybod gan eich meddyg. Cofiwch fynd ag ID gyda chi i'r siop fferyllydd os ydych chi'n gymwys i gael presgripsiwn am ddim.

Gall fferyllwyr hefyd roi cyngor am driniaethau y gellir eu prynu dros y cownter.

I ddod o hyd i'ch fferyllydd agosaf, ewch i wefan NHS Choices neu ffoniwch NHS Direct ar 0845 46 47.

Canolfannau galw i mewn y GIG

Mae'r canolfannau hyn yn cynnig cyngor cyfrinachol a thriniaeth ar gyfer mân anafiadau ac afiechydon. Maent yn cael eu staffio gan nyrsys profiadol, maent ar agor drwy'r dydd, saith niwrnod yr wythnos a does dim angen apwyntiad.

Er mwyn dod o hyd i'r ganolfan galw i mewn agosaf atoch chi, ewch i wefan NHS Choices neu ffoniwch NHS Direct ar 0845 46 47.

Damweiniau ac Achosion Brys/999

Os ydych chi'n ddifrifol wael ac angen gofal brys, gallwch fynd yn syth i adran damweiniau ac achosion brys (A&E) yr ysbyty agosaf.

Neu gallwch ffonio 999 i gael ambiwlans argyfwng.

Ymwelwyr iechyd a nyrsys cymunedol

Nyrsys wedi'u hyfforddi'n arbennig yw ymwelwyr iechyd sy'n gallu darparu cyngor a chefnogaeth yn y gymuned ar gyfer y sawl sydd o bosib yn agored i niwed.

Fel arfer, os oes gennych chi blentyn dan bump oed, fe drefnir ymwelydd iechyd ar eich cyfer pan fydd eich babi ryw 10 niwrnod oed. Os nad yw hyn yn digwydd, cysylltwch â'ch meddygfa ac mi fyddan nhw'n rhoi gwybod i'r ymwelydd iechyd lleol.

Os byddwch chi, neu aelod o'ch teulu, angen gofal nyrsio neu gefnogaeth gartref, gall nyrs gymunedol neu ymwelydd iechyd helpu. Maent yn gweithio â phobl sydd o bosib yn sâl neu'n anabl neu efallai bod ganddynt broblemau iechyd meddwl neu gorfforol.

Mudiadau ac elusennau

Mae llawer o bobl yn ymweld â gwefannau sy'n cael eu rhedeg gan elusennau neu fudiadau gwirfoddol sy'n arbenigwyr ar anhwylder meddygol neu anabledd penodol.

Yn ogystal â chynnwys gwybodaeth fanwl am achosion ac effeithiau cyflyrau, mae'r gwefannau hyn yn darparu gwybodaeth am driniaethau, meddyginiaethau, offer, therapïau amgen (lle bo hynny'n briodol), hunan-gymorth a grwpiau cefnogi.

Maent hefyd yn gyfrwng i rannu sylwadau gyda phobl eraill drwy negesfyrddau a fforymau. Mae llawer ohonynt yn cyhoeddi cylchlythyrau neu gylchgronnau y gallwch chi danysgrifio iddynt. Cewch ragor o fanylion yn yr adran cysylltiadau defnyddiol.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU