Mae NHS Direct yn cynnig cyngor ar iechyd neu wybodaeth ar gyfer unrhyw un sydd ei angen, 24 awr y dydd, dros y ffôn, ar deledu digidol neu ar-lein. Os ydych chi'n teimlo'n wael ar hyn o bryd, ffoniwch NHS Direct ar 0845 4647.
Pan fyddwch yn ffonio NHS Direct, bydd nyrs yn rhoi gwybodaeth a chyngor cyfrinachol i chi. Gallwch ffonio i gael cyngor os ydych yn teimlo'n sâl ac yn ansicr beth i'w wneud, neu i gael gwybodaeth iechyd am gyflyrau penodol megis diabetes ac alergeddau.
Gall NHS Direct hefyd ddweud wrthych ble i ddod o hyd i'ch meddyg, fferyllydd, deintydd a'ch grŵp cymorth agosaf, yn ogystal â gwasanaethau iechyd eraill.
Gallwch ffonio NHS Direct ar 0845 4647, ar unrhyw adeg o'r dydd neu'r nos. Os nad Saesneg yw eich iaith gyntaf, gallwch ddefnyddio gwasanaeth cyfieithu cyfrinachol.
Mae gwasanaeth ffôn testun ar gael ar gyfer pobl ag anawsterau gyda'u clyw neu ar eu lleferydd ar 0845 606 4647.
Uchafswm o bum ceiniog y funud yw cost galwadau i NHS Direct o linell gyffredin BT. Gall cost galwadau o ffonau symudol a rhwydweithiau eraill amrywio. Efallai y bydd eich darparwr gwasanaeth yn codi lleiafswm fesul galwad. Er diogelwch cleifion, mae galwadau i NHS Direct yn cael eu recordio.
I gael gwybodaeth am gannoedd o gyflyrau a thriniaethau, ac i ddod o hyd i wasanaethau iechyd lleol yn Lloegr, ewch i wefan NHS Choices.