Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Eich meddyg lleol (meddyg teulu)

Mae meddygfa eich meddyg lleol yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, gan gynnwys rhoi cyngor ar broblemau iechyd, gwneud archwiliadau corfforol, diagnosio symptomau, rhoi presgripsiynau a chynnig triniaethau eraill.

Cofrestru gyda meddygfa

Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y meddygfeydd yn eich ardal drwy lenwi eich cod post ar wefan NHS Choices, wrth ddefnyddio’r ddolen isod.

Ar ôl i chi ddewis meddygfa, bydd angen i chi gofrestru gyda hi fel un o gleifion y GIG. I gofrestru gyda meddygfa, holwch y derbynnydd a ydych chi'n byw yn nalgylch y feddygfa ac a oes ganddynt le i gleifion newydd.

Nid oes angen i chi gofrestru gydag un meddyg penodol mwyach; yn wir, gallwch ddewis pa feddyg, nyrs neu weithiwr iechyd proffesiynol yr ydych chi am ei weld, heb orfod esbonio pam

Os yw eich cais yn llwyddiannus

Os yw'r feddygfa'n fodlon eich derbyn fel un o gleifion y GIG, bydd angen i chi lenwi ffurflen gofrestru (GMS1). Holwch y derbynnydd am gopi. Yna, caiff eich cofnodion meddygol eu trosglwyddo i'ch meddygfa newydd.

Os gwrthodir eich cais

Os ydych yn byw dros bellter penodol o'r feddygfa, neu os yw wedi cau ei rhestr cleifion, efallai y bydd eich cais yn cael ei wrthod. Os digwydd hyn, cysylltwch â'ch Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol leol, a ddylai allu dod o hyd i feddygfa newydd ar eich cyfer yn gyflym.

Dylai'r feddygfa a wrthododd eich derbyn roi resymau dros eu penderfyniad. Ni ddylent wahaniaethu ar sail hil, rhyw, dosbarth cymdeithasol, oedran, crefydd, tueddfryd rhywiol, anabledd, eich edrychiad na'ch cyflwr meddygol.

Cofrestru'ch babi

Pan fyddwch chi'n cofrestru genedigaeth eich babi, fe gewch chi ffurflen FP58 gan y Cofrestrydd Genedigaethau, Marwolaethau a Phriodasau. Llenwch y ffurflen hon a'i chyflwyno i'r feddygfa.

Pa wasanaeth allwch chi ei ddisgwyl

Os nad yw eich cyflwr yn ddifrifol, gallwch ddisgwyl gweld meddyg o fewn dau ddiwrnod gwaith, er y bydd yr amseroedd aros yn dibynnu ar faint y practis. Mae'n hollbwysig eich bod yn cadw'ch apwyntiadau, ac oni allwch, dylech roi o leiaf un diwrnod o rybudd i'ch meddyg teulu.

Os oes gennych anawsterau cyfathrebu, neu os teimlwch y bydd angen mwy o amser arnoch i drafod gyda'ch meddyg, dylech allu gofyn am apwyntiad hirach.

Fel arfer, bydd eich meddyg yn cael ei gefnogi gan dîm o nyrsys, ymwelwyr iechyd a bydwragedd, yn ogystal ag arbenigwyr eraill, gan gynnwys ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol.

Trefnu apwyntiad ar-lein

Mae rhai meddygfeydd yn cynnig gwasanaeth trefnu apwyntiad dros y we, neu drwy eich teledu digidol neu ffôn symudol. Gallwch weld yr apwyntiadau sydd ar gael a dewis yr amser mwyaf cyfleus, canslo neu newid eich apwyntiad, ac weithiau wneud cais am bresgripsiynau sy'n cael eu rhoi dro ar ôl tro.

Dim ond mewn meddygfeydd sy'n defnyddio'r system archebu EMIS Access y gellir cael y gwasanaeth hwn. I gael rhagor o wybodaeth a manylion sut i gofrestru, holwch dderbynnydd eich meddyg.

Cael offer a thriniaeth arbenigol

Gall eich meddyg roi triniaeth a/neu offer i chi yn dibynnu ar eich gofynion. Gallant hefyd eich cyfeirio at wasanaethau arbenigol mewn ysbyty neu leoliad cymunedol arall.

Gall fod yn bwysig iawn cael trefn ar rai pethau cyn mynd i weld eich meddyg ar gyfer apwyntiad. Er enghraifft, os ydych yn fyddar neu â nam ar eich clyw, gellir gwneud trefniadau i ddehonglydd iaith arwyddion fod yn bresennol.

Ymweliadau cartref a gwasanaeth meddygfa y tu allan i oriau

Gall eich meddyg ymweliad â'ch cartref a darparu gwasanaeth y tu allan i oriau.

Gwasanaeth y tu allan i oriau (argyfwng)

Bydd gan bob meddygfa wasanaeth argyfwng y tu allan i oriau arferol. Ar gyfer problemau meddygol brys yn unig y mae'r gwasanaeth hwn, problemau y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt cyn i'r feddygfa ail-agor. Holwch eich meddygfa am y trefniadau y tu allan i oriau.

Os oes gennych ymholiad neu broblem iechyd nad yw'n argyfwng, gallwch hefyd gysylltu ag NHS Direct unrhyw bryd ar 0845 46 47.

Ymweliadau cartref

Os ydych yn rhy sâl neu'n methu'n deg â mynd i'r feddygfa, gellir gwneud trefniadau i'ch meddyg ddod i'ch gweld gartref. Mae'n bosib eich bod yn gaeth i'ch tŷ neu fod gennych anabledd. Unwaith eto, holwch eich meddygfa.

Newid eich meddygfa

Mae hawl gennych i newid eich meddygfa heb orfod esbonio pam. Mae'r broses o ddod o hyd i feddyg newydd yn debyg iawn i gofrestru. Serch hynny, byddai'n ddefnyddiol iawn (at ddibenion gweinyddol) i chi roi gwybod i'ch meddygfa bresennol eich bod am eu gadael.

Cael presgripsiwn

Os oes angen meddyginiaeth arnoch, bydd eich meddyg yn ysgrifennu presgripsiwn i chi ei roi i'r fferyllydd. Yn dibynnu ar eich meddyginiaeth, efallai y byddwch yn gallu cael presgripsiwn 'dro ar ôl tro' a threfnu amser o flaen llaw i'w gasglu o'ch meddygfa - heb fod yn rhaid i chi weld eich meddyg eto.

Os oes gennych anabledd, gall eich meddyg a'ch fferyllydd drefnu gyda'i gilydd eich bod yn derbyn presgripsiynau gartref.

Cwyno am eich meddyg

Os ydych am gwyno am y gofal neu wasanaeth a ddarparwyd gan eich meddyg neu'r feddygfa, cysylltwch â'r person yn y feddygfa sy'n gyfrifol am drefn gwyno'r practis. Hefyd, gallech ddefnyddio'r gwasanaeth Cwynion Iechyd sy'n cael ei redeg gan Ombwdsmon y Gwasanaeth Iechyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU