Mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn darparu triniaeth ddeintyddol sy'n angenrheidiol ar gyfer iechyd y geg. Mae hyn ar gael i bob un sydd wedi cofrestru gyda'r GIG. Ffynhonnell arall o driniaeth ddeintyddol yw triniaeth ddeintyddol breifat. Gallwch gael gwneud rhai pethau'n breifat na ellir eu cynnig dan y GIG.
Gallwch ddewis deintydd y GIG neu ddeintydd preifat yn dibynnu ar y math o driniaeth yr hoffech ei chael a faint allwch chi fforddio talu.
Dyma rai o'r triniaethau y gallwch chi eu cael gan eich deintydd GIG:
Gallwch dderbyn amrywiaeth eang o driniaethau os ydych yn dewis mynd yn breifat, naill ai gyda'ch deintydd GIG neu mewn practis arall. Mae triniaeth ddeintyddol breifat yn darparu rhai triniaethau arbenigol na ellir eu cael dan y GIG, megis triniaeth ddeintyddol gosmetig. Er enghraifft, gallwch gael llenwadau gwyn ar eich dannedd cefn - nid yw hyn ar gael dan y GIG.
Mae orthodeintyddion yn arbenigo mewn symud a sythu dannedd drwy ddefnyddio offer orthodeintyddol, megis bresys. Maent yn helpu i wella iechyd eich dannedd a'ch deintgig ac yn eu gwneud yn fwy effeithiol wrth gnoi oherwydd bod pob dant yn cael ei ddefnyddio i'r un graddau.
Mae glanweithwyr deintyddol yn gweithio mewn practis deintyddol ac maent yn crafu ac yn glanhau dannedd yn drylwyr, rhoi triniaethau periodontol (y deintgig) a rhoi cyngor am hybu iechyd y geg.
Mae rhai deintyddion yn mynnu eich bod yn cael archwiliad cychwynnol. Ar ôl gwneud hynny, byddwch wedi cofrestru am gyfnod o 15 mis.
Er mwyn atal problemau difrifol rhag datblygu, bydd eich deintydd yn argymell pa mor aml y bydd angen archwiliad arnoch. Mae canllawiau gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol yn argymell y dylech gael archwiliad deintyddol yn dibynnu ar eich anghenion ac ar sail asesiad o lefelau clefydau a'r risg o glefydau deintyddol. Ar gyfer pobl ifanc dan 18 oed, maent yn argymell bwlch rhwng 3 a 12 mis rhwng archwiliadau. Ar gyfer oedolion, maent yn argymell bwlch rhwng 3 a 24 mis rhwng archwiliadau.
Y deintydd neu'r practis unigol sy'n pennu prisiau triniaethau preifat, felly maent yn amrywio o bractis i bractis. Mae'n syniad da cael amcan bris ysgrifenedig a chynllun triniaeth cyn cychwyn unrhyw driniaeth ddeintyddol breifat.
Mae'n bosib y cewch chi help gyda chostau deintyddol dan y GIG os ydych chi:
Darllenwch daflen HC11 yr Adran Iechyd i weld a ydych chi'n gymwys i dderbyn triniaeth am ddim neu am bris gostyngol dan y GIG.
Dylai eich deintydd:
Fel un o gleifion y GIG:
Mae rheidrwydd ar ddeintyddion preifat i ddarparu'r un math o ofal mewn argyfwng i'w cleifion hwythau hefyd.
Os ydych chi'n aelod o gynllun yswiriant deintyddol preifat, bydd rheolau'r cynllun fel arfer yn golygu bod rhaid i'r deintydd roi cyfnod penodedig o rybudd cyn dod â'r cynllun i ben. Rhaid i'ch deintydd orffen eich triniaeth bresennol a darparu unrhyw driniaeth frys fydd ei hangen arnoch yn y cyfamser.
Gall eich practis godi tâl arnoch os byddwch yn colli apwyntiad neu'n canslo ar fyr rybudd. Fodd bynnag, rhaid iddynt eich hysbysu o flaen llaw os ydynt yn gwneud hyn.