Mae triniaethau ac apwyntiadau yn ysbytai'r GIG yn rhad ac am ddim i holl drigolion y DU. Yma, cewch wybod mwy am y broses dderbyn mewn ysbytai yn Lloegr, dewis ysbyty, amseroedd aros, eich cyfnod yn yr ysbyty, a beth i'w wneud os ydych chi am gwyno am ysbyty neu am eich triniaeth.
Os ydych chi a'ch Meddyg Teulu (neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall) yn penderfynu y dylech chi weld arbenigwr am driniaeth bellach, byddwch chi'n cael dewis o bedwar neu fwy o ysbytai neu glinigau.
Byddwch yn cael llyfryn sy'n sôn am ddewis eich ysbyty gan eich Meddyg Teulu, neu gan y staff yn y feddygfa, sy'n cynnwys gwybodaeth am eich ysbytai lleol ac yn eu cymharu. Pan fyddwch yn chwilio am ysbyty lleol ar wefan y GIG ac yn taro golwg dros eich opsiynau, llwythwch y fersiwn pdf o'r llyfryn sy'n berthnasol i'ch ardal chi. Efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi ffonio'ch gwasanaeth cefnogi cleifion lleol i siarad â nhw. Gallwch ddod o hyd i'r rhif ffôn yn y llyfryn.
Os nad oes gwahaniaeth gennych i ba ysbyty y byddwch chi'n mynd, gall eich Meddyg Teulu wneud y penderfyniad drosoch chi.
Os oes angen i chi gael eich derbyn i ysbyty, bydd eich Meddyg Teulu, deintydd neu weithiwr iechyd proffesiynol arall yn gwneud y trefniadau ar eich cyfer. Os oes angen triniaeth gymhleth arnoch, mae'n bosib y cewch eich derbyn i ysbyty sy'n ganolfan gofal arbenigol.
Yn dibynnu ar natur y profion neu'r driniaeth sydd ei hangen arnoch, gallwch gael eich derbyn i ysbyty fel un o'r canlynol:
Os ydych chi'n glaf allanol dylech allu trefnu apwyntiad sy'n gyfleus i chi naill ai ar-lein drwy'r gwasanaeth 'Dewis ac Archebu' (yn Lloegr yn unig) neu drwy wasanaeth archebu'r ysbyty ei hun. Neu, mae'n bosib y bydd gofyn i chi ffonio'r ysbyty eich hun i drefnu apwyntiad ar ddiwrnod sy'n gyfleus i chi.
Byddwch yn cael gwybod beth fydd yn digwydd yn ystod ac ar ôl eich apwyntiad a rhoddir rhif i chi ei ffonio os oes gennych ragor o gwestiynau. Bydd yr ysbyty'n taro nodyn yn y post sy'n cynnwys manylion eich apwyntiad gan gynnwys y dyddiad, yr amser a chyfarwyddiadau ar sut i gyrraedd yno.
Mae amseroedd aros ar gyfer triniaeth yn amrywio, ond ni ddylech orfod disgwyl yn hwy na:
Erbyn Rhagfyr 2008, rhoddir gwarant i gleifion na fydd yr amser rhwng cael eu cyfeirio a dechrau triniaeth (a elwir yn 'llwybr') yn hwy na 18 wythnos.
Os ydych chi'n cael eich derbyn fel claf mewnol mewn ysbyty, rydym yn argymell y dylech ddod â'r canlynol gyda chi:
Bydd eich nyrs neu feddyg yn egluro'n union beth sy'n bod arnoch ac yn egluro'r driniaeth sydd ei hangen arnoch. Yna, bydd cyfle i chi siarad am y driniaeth, ac os ydych chi'n penderfynu bwrw ymlaen, bydd gofyn i chi roi'ch caniatâd ysgrifenedig. Byddwch chi'n rhan o bob penderfyniad am eich triniaeth trwy gydol eich arhosiad yn yr ysbyty.
Bydd y staff, os byddwch chi'n gofyn iddyn nhw wneud hynny, yn sicrhau bod ffrind neu berthynas yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am eich cyflwr. Caiff eich preifatrwydd ei barchu ac fe gewch weld eich cofnodion os ydych yn dymuno. Bydd y meddygon a'r nyrsys a fydd yn eich trin yn sensitif i'ch anghenion crefyddol, ysbrydol a diwylliannol. Y flaenoriaeth yw eich gofal iechyd, ac ni fydd y driniaeth a gewch yn gwahaniaethu ar sail rhyw, rhywioldeb, oed nac anabledd.
Gwneir pob ymdrech i gynnig gwely i chi ar ward gyda phobl o'r un rhyw, lle bo hynny'n bosib, ac fe asesir unrhyw ofynion o ran deiet.
Os nad ydych chi'n fodlon gyda'r lefel o ofal a dderbynioch yn yr ysbyty, dylech gysylltu â'r ysbyty dan sylw i geisio datrys y mater. Os nad ydych yn fodlon ar ôl gwneud hynny, dylech gysylltu â'r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion yn eich ysbyty neu'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol.
Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus, gallwch ofyn i banel adolygu annibynnol asesu eich achos. Rhaid i chi wneud hyn cyn pen 28 diwrnod o'r ymateb ysgrifenedig i'ch cwyn. Aelod anweithredol o Awdurdod Iechyd y GIG fydd yn delio â chi.
Os ydych chi'n dal i fod yn anhapus â'r canlyniad, dylech gysylltu â'r Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.