Ar 1 Gorffennaf 2007, daeth bron bob man cyhoeddus a man gwaith caeedig yn Lloegr yn ddi-fwg. Mae ysmygu yn y llefydd hyn yn erbyn y gyfraith.
Dan y rheoliadau newydd, mae'n anghyfreithlon ysmygu yn y llefydd hyn:
Ni chaniateir ystafelloedd ysmygu mewn adeiladau erbyn hyn, felly mae'n rhaid i unrhyw un sydd am ysmygu fynd y tu allan.
Cewch ysmygu yn eich cartref eich hun (tŷ annedd preifat), ac eithrio mewn unrhyw ran a ddefnyddir fel man gwaith yn unig gan fwy nag un person. Am fwy o wybodaeth, gweler 'Cwestiynau am leoliadau di-fwg' uchod.
Cewch ysmygu yn eich car eich hun, cyn belled mai at ddibenion preifat y'i defnyddir yn bennaf.
Cewch ysmygu yn yr awyr agored, mewn mannau nad ydynt yn 'sylweddol gaeedig'. Fodd bynnag, mae gan rai llefydd bolisi di-fwg, fel ar blatfformau trên neu mewn stadiymau chwaraeon.
Ceir rhai eithriadau penodol rhag y ddeddf ddi-fwg, ond mae amodau caeth yn gysylltiedig â hwy. Maent yn caniatáu i ystafelloedd gael eu neilltuo ar gyfer ysmygu mewn mathau arbennig o lefydd, gan gynnwys:
I gael mwy o wybodaeth am lefydd sydd wedi'u heithrio, ac am ysmygu os ydych yn cael gofal yn eich cartref eich hun neu os ydych yn gweithio mewn cartrefi pobl eraill, ewch i wefan Smokefree England.
Mae torri'r ddeddf ddi-fwg yn drosedd. Dyma'r hysbysiadau cosb benodedig a'r ddirwy fwyaf ar gyfer pob trosedd:
Mae cynghorau lleol yn gyfrifol am roi cyngor am y ddeddf ddi-fwg a gweithredu arni yn Lloegr.
Gallwch ffonio 0800 587 1667 i roi gwybod am dorcyfraith posib. Bydd y wybodaeth yn cael ei throsglwyddo i gynghorau lleol er mwyn iddynt ddilyn ei thrywydd, os bydd hynny'n briodol.